Bydd rhaid i George North aros am ei 100fed cap i Gymru ar ôl cael ei anafu ym muddugoliaeth Cymru dros y Gwyddelod ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad.

Bu rhaid iddo gael asesiadau pellach ar ôl colli rhywfaint o’i olwg yn ystod y fuddugoliaeth 21-16 yn erbyn Iwerddon.

Bydd Cymru yn wynebu’r Alban i ffwrdd o gartref yn Murrayfield ddydd Sadwrn, Chwefror 13.

Ond yn dilyn anafiadau i George North, Johnny Williams a Jonathan Davies – mae’n debyg mai Nick Tompkins ac Owen Watkin fydd y canolwyr ddydd Sadwrn.

Mae canolwr Gleision Caerdydd, Willis Halaholo, hefyd wedi ymuno â’r garfan.

Cafodd Halaholo ei enwi yng ngharfan gyntaf Wayne Pivac yn 2019 i wynebu’r Barbariaid ond bu rhaid iddo dynnu nôl oherwydd anaf i’w ben-glin.

Mae’r canolwr profiadol, Jamie Roberts, yn parhau i hyfforddi gyda rhanbarth y Dreigiau.

Yn ogystal â Johnny Williams, bydd yr asgellwr Hallam Amos a’r mewnwr Tomos Williams yn methu’r gêm yn erbyn yr Alban oherwydd anafiadau – ac mae Dan Lydiate allan o’r bencampwriaeth yn llwyr.

Mae Wayne Pivac hefyd felly wedi galw’r mewnwr Lloyd Williams a’r blanasgellwr James Botham i garfan Cymru.

Mae’r asgellwr Josh Adams yn parhau’n absennol ar ôl cael ei wahardd am ddwy gêm am dorri rheoliadau Covid-19.

Ond mae disgwyl i Liam Williams ddychwelyd i’r tîm ar ôl methu gêm gyntaf y bencampwriaeth ar ôl cael ei wahardd am drosedd cerdyn coch tra’n chwarae i’r Scarlets

Bydd Prif Hyfforddwr Cymru yn cyhoeddi ei dîm i wynebu’r Alban prynhawn ma (dydd Iau, Chwefror 11).

Cam i’r cyfeiriad cywir i dîm Wayne Pivac

Lleu Bleddyn

Ar ôl crafu buddugoliaeth flêr yn erbyn 14 dyn Iwerddon mae Prif Hyfforddwr Cymru yn cydnabod bod lle i wella o hyd