Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi ennill gwobr Rheolwr y Mis yn y Bencampwriaeth ar ôl pedair gêm ddi-guro i’w dîm ym mis Ionawr.

Roedd eu gwrthwynebwyr yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys Watford a Brentford, dau dîm arall sydd mewn sefyllfa gref i ennill dyrchafiad.

Daw’r cyhoeddiad wrth i gêm Abertawe yn Sheffield Wednesday yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 13) gael ei gohirio o ganlyniad i’r tywydd, gyda chae Hillsborough yng ngogledd Lloegr wedi rhewi.

Canu clodydd Cooper

Ar ôl ennill y wobr, mae Steve Cooper wedi cael clod mawr am ei waith wrth godi’r Elyrch i uchelfannau’r Bencampwriaeth unwaith eto ar ôl colli yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf.

“Enillodd tîm Steve ddeg pwynt yn Ionawr, gan sgorio wyth gôl,” meddai Danny Wilson, cadeirydd y panel sy’n dewis enillwyr y wobr.

“Fe wnaeth ennill pedwar pwynt yn erbyn Watford a Brentford, dau wrthwynebydd yn y ras am ddyrchafiad, adael y clwb yn dynn ar sodlau Norwich ar frig y gynghrair.”

Yn ôl Don Goodman, sy’n gweithio fel pyndit ar Sky Sports, “roedd Ionawr yn edrych yn anodd ar bapur”.

“Ond fe wnaeth Steve Cooper ennyn edmygedd wrth ymateb i’r dasg,” meddai.

“Wrth iddyn nhw gydbwyso rhediad oedd wedi creu argraff yng Nghwpan FA Lloegr [cyn colli yn erbyn Manchester City], fe wnaethon nhw gasglu deg pwynt allan o ddeuddeg posib yn y gynghrair, er gwaethaf ambell gêm oddi cartref oedd yn edrych yn anodd yn erbyn Barnsley a Rotherham.

“Mae disgwyl i Abertawe fod yn ei chanol hi ar gyfer dyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair os gallan nhw barhau’n gyson ac os gwnawn nhw, fe fyddan nhw’n edrych yn ôl ar fis Ionawr fel un arwyddocaol iawn.”

Yr ods

Mae ods Abertawe o ennill dyrchafiad wedi newid o 11/4 i 10/11 ers dechrau’r flwyddyn.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaethon nhw godi i’r trydydd safle yn y tabl, ddau bwynt islaw’r brig gyda gêm wrth gefn.

Yn ôl Sky Bet, yr Elyrch yw’r trydydd ffefrynnau i ennill dyrchafiad y tu ôl i Brentford a Norwich ac mae’r tebygolrwydd yn cynyddu wrth i’w rhediad di-guro ymestyn i ddeg gêm.

Ac ar ôl denu’r chwaraewr profiadol Conor Hourihane ar fenthyg o Aston Villa, mae’r tebygolrwydd y byddan nhw’n bencampwyr wedi codi o 18/1 ar ddechrau’r tymor i 9/2.