Ar drothwy’r ornest yn erbyn Coventry, mae rheolwr newydd yr Adar Gleision, Mick McCarthy, wedi disgrifio ei garfan fel yr orau iddo’i hetifeddu.
Cafodd y rheolwr newydd ei benodi fis Ionawr yn lle Neil Harris.
Roedd Caerdydd wedi colli chwe gêm yn olynol cyn i Mick McCarthy gymryd yr awenau, ond maen nhw bellach wedi mynd pedair gêm heb golli.
“Dw i wrth fy modd, maen nhw wedi ymateb i bopeth,” meddai’r rheolwr.
“Gellid dadlau mai dyma’r garfan orau i mi ei hetifeddu erioed, mae yna chwaraewyr da, ac o’r gemau hyd yma mae’n amlwg fod eu meddyliau nhw wir ar y gwaith.”
“Mae’n rhaid i ni ennill”
Mae McCarthy yn cydnabod pwysigrwydd y gêm yn erbyn Coventry brynhawn Sadwrn, Chwefror 13, er mwyn cadw’r hyder o fewn y garfan.
“Rydym wedi cael dau ganlyniad da iawn a dw i wedi dweud wrth y bechgyn bod hi’n bwysig ein bod ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau.
“Mae wyth pwynt o bedair gêm yn wych, ond dydyn ni ddim yn mynd i ddechrau credu mai ni yw’r tîm fydd yn mynd yr holl ffordd.
“Mae’n rhaid i ni ennill [yn erbyn Coventry dydd Sadwrn] ac yna cael rhywbeth allan o’r gêm nesaf yn erbyn Luton. Ac os gallwn ni wneud hynny ar ôl chwech, saith neu wyth gêm yna dw i’n meddwl y gallem ni ddechrau credu.
“Ond yr hyn dydw i ddim eisiau ei wneud yw canu clodydd ac yn sydyn iawn baglu yn erbyn Coventry.”
Mae gan Gaerdydd 18 gêm yn weddill o dymor y Bencampwriaeth ac maen nhw wyth pwynt o fod yn y chwech uchaf.