Mae Dylan Levitt, chwaraewr canol cae Manchester United a Chymru, yn agosau at gyfnod annisgwyl ar fenthyg yn Croatia, yn ôl adroddiadau.

Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i United yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf yn erbyn Astana yn Kazakhstan, mae’r llanc 20 oed wedi mynd ymlaen i ennill pum cap rhyngwladol.

Dechreuodd Levitt yr ymgyrch eleni gyda Charlton yn League One, ond torrwyd y benthyciad yn fyr gan United, ar ôl iddo gael ei gyfyngu i bum ymddangosiad yn unig.

Mae’r chwaraewr canol cae wedi chwarae ddwywaith i dim dan 23 oed United ers dychwelyd yno, ac mae bellach yn edrych yn debygol ei fod am adael ar fenthyg i ddod o hyd i fwy o bêl-droed ar lefel uwch.

Mae adroddiadau fod trafodaethau wedi’u cynnal gydag Istra 1961 yng nghynghrair uchaf Croatia.

Byddai symud yn beth da i Levitt o ran ei obeithion o gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros yr haf hwn.

Mae ffenestr drosglwyddo’r gaeaf yn Croatia yn cau ddydd Llun.