Mae dwy gôl gan Keiffer Moore wedi sicrhau buddugoliaeth 3-1 i Gaerdydd yn erbyn Coventry, gan gynnal record ddiguro Mick McCarthy ers iddo gychwyn fel rheolwr.

Sgoriodd ergydiwr Cymru ddwywaith mewn wyth munud yn yr hanner cyntaf, gan olygu ei fod wedi sgorio pum gôl yn ei bum gêm ddiwethaf i’r Adar Gleision.

Fe wnaeth Josh Murphy wedyn gosbi esgeulustod Coventry ym munud cyntaf yr ail hanner gan roi Caerdydd dair gôl ar y blaen.

Er i Dominic Hyam lwyddo i sgorio gôl gysur hwyr, doedd hyn ddim yn ddigon i rwystro Coventry rhag llithro i’r 20fed safle yn nhabl Sky Bet Championship.

Mae Mick McCarthy wedi codi Caerdydd i safle o fewn chwe phwynt o’r gemau ail gyfle, lai na mis ar ôl cychwyn yn ei swydd.

Yn y cyfamser, cafodd y gemau rhwng Abertawe a Sheffield Wednesday, Casnewydd yn erbyn Port Vale a  Wrecsam yn erbyn Notts County, a oedd wedi eu trefnu ar gyfer heddiw, eu gohirio oherwydd bod y caeau wedi rhewi.