Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi canmol perfformiad disglair Louis Rees-Zammit wrth sgorio dau gais yn y fuddudoliaeth gyffrous 25-24 yn erbyn yr Alban ddoe.

Er mai dim ond yr ail waith oedd hi i asgellwr 20 oed Caerloyw ei chwarae mewn gêm Chwe Gwlad, ef yn ddiamheuol oedd seren y gêm, wrth lwyddo i ychwanegu dau gais at yr un a sgoriodd yn erbyn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf.

“Mae am fod yn chwaraewr cyffrous iawn inni,” meddai Wayne Pivac. “Fe gymerodd ei gyfleoedd yn dda. Mae ganddo hyder gyda’r bêl yn ei law, mae ganddo’r cyflymder, ac allwch chi ddim dysgu hynny. Mae’n gyflym iawn, iawn.”

Roedd wedi sgorio eiliadau cyn hanner amser i gadw Cymru yn y gêm, ac fe wnaeth ei ail gais – ar ôl ceisiau gan Liam Williams a Wyn Jones – gadarnhau pwynt bonws. Roedd y cais hwn yn uchafbwynt y gêm, ac roedd i’w briodoli’n gyfan gwbl i ymdrechion Rees-Zammit ar hyd hanner yr Alban o’r cae.

Roedd yr Alban wedi gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant hanesyddol yn curo Lloegr yn Twickenham yr wythnos ddiwethaf, ac fe gawson nhw gychwyn da gyda cheisiau gan Darcy Graham a Stuart Hogg.

Ond cafodd eu breuddwydion eu dryllio wrth i Gymru fanteisio ar wendid yr Alban pan gafodd Zander Fagerson ei yrru o’r cae yn yr ail hanner.

“Roedd yn ganlyniad gwych i’n tîm ac i’n carfan,” meddai Wayne Pivac wrth ddathlu ei fuddugoliaeth oddicartref gyntaf ers iddo gychwyn yn ei swydd.

“Er gwaethaf yr anafiadau, fe wnaeth pawb chwarae ei ran. Mae’r awyrgylch yn y grwp, ac wrth hyfforddi, yn dda iawn.

“Dw i’n credu ei bod yn amlwg i bawb nad ddoe oedd y perfformiad llawn. Dim ond ail rownd y twrnament yw hi, a byddem yn disgwyl gwella bob tro’r ydym ar y cae.”

Cymru’n curo’r Alban o un pwynt

Dau gais gan Louis Rees-Zammitt yn helpu sicrhau buddugoliaeth gofiadwy 25-24 i Gymru ym Murrayfield