Roedd yr eira a’r rhew yn drech na sawl gêm dros y penwythnos ond sut wnaeth y Cymry yn y rhai a oroesodd?

Uwch Gynghrair Lloegr

Eilyddion a oedd Danny Ward a Neco Williams wrth i Gaerlŷr drechu Lerpwl yn y King Power ddydd Sadwrn ac nid oedd Neil Taylor yng ngharfan Aston Villa wrth iddynt hwy deithio i Brighton.

Dechreuodd Ben Davies i Tottenham wrth iddynt golli’n drwm yn erbyn Man City nos Sadwrn ond nid oedd Joe Rodon yn y garfan. Ac ar ôl ychydig o anghytuno cyhoeddus rhyngddo ef a Jose Mourinho yr wythnos hon, ymddengys fod rheolwr Gareth Bale wedi maddau iddo erbyn hyn gan roi deuddeg munud oddi ar y fainc iddo yn y gêm hon. Bu bron i Bale â sgorio gôl unigol wych hefyd ond ar ôl curo sawl amddiffynnwr mewn lle cyfyng cafodd ei ergyd ei harbed.

Gwylio o’r fainc a wnaeth Hal Robson-Kanu a Daniel James wrth i’w timau, West Brom a Man U, chwarae gêm gyfartal gôl yr un yn yr Hawthorns ddydd Sul.

Un a all fod ar ei ffordd o Old Trafford yn fuan yw Dylan Levitt. Yn dilyn cyfnod aflwyddiannus ar fenthyg gyda Charlton yn hanner cyntaf y tymor, mae sôn fod y bachgen o Fodelwyddan fod ar ei ffordd i Groatia am weddill y tymor, ar fenthyg gyda NK Istra.

Dechrau ar y fainc a wnaeth Tyler Roberts wrth i Leeds ymweld ag Arsenal ddydd Sul ond daeth i’r cae fel eilydd hanner amser gyda’i dîm eisoes dair gôl i ddim ar ei hôl hi! Fe wellodd pethau gyda’r Cymro ar y cae a phedair gôl i ddwy a oedd y sgôr terfynol, gyda Roberts yn creu ail gôl ei dîm i’w gyd eilydd, Helder Costa.

Nid yw Sheffield United yn chwarae tan nos Lun ac fe ddylai Ethan Ampadu gadw’i le yn y tîm ar ôl chwarae yn y fuddugoliaeth ganol wythnos yn erbyn Bristol City yn y Cwpan.

*

Y Bencampwriaeth

Kieffer Moore heb os a oedd seren y penwythnos yn y Bencampwriaeth, yn rhwydo ddwywaith yn erbyn Coventry ddydd Sadwrn wrth i ddechrau da Mick McCarthy wrth y llyw barhau. Enillodd yr Adar Gleision o dair gôl i un ac maent bellach yn seithfed yn y tabl ar ôl ennill eu tair gêm ddiwethaf.

Roedd gôl gyntaf Moore yn un unigol dda a’r ail yn un ddigon blêr yn dilyn tafliad hir i’r cwrt chwech gan Will Vaulks. Chwaraeodd Harry Wilson y gêm gyfan hefyd ond mae Jonny Williams yn parhau i fod wedi’i anafu. Ymddengys fod McCarthy yn rhoi ffydd yn yr academi hefyd a chafodd y bachgen deunaw oed, Rubin Colwill, ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd hwyr yn y gêm hon. Roedd Mark Harris, George Ratcliffe ac Isaak Davies ar y fainc hefyd.

Kieffer Moore

Gêm Abertawe yn Sheffield Wednesday a oedd un o’r rhai i gael eu gohirio a rhoddodd hynny’r cyfle i Norwich ymestyn eu mantais ar frig y tabl gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Stoke. Chwaraeodd pum Cymro i’r Potters wrth iddynt golli o bedair gôl i un; James Chester, Morgan Fox a Joe Allen yn dechrau a Rabbi Matondo a Sam Vokes yn dod oddi ar y fainc.

Chwaraeodd Chris Mepham a David Brooks eu rhan mewn buddugoliaeth gofiadwy i Bournemouth yn erbyn Burnley yn y Cwpan ganol wythnos ond nid oedd Mepham yn y garfan ar gyfer y gêm ddi sgôr ddiflas yn erbyn Nottingham Forest ddydd Sadwrn a dim ond 25 munud oddi ar y fainc a gafodd Brooks.

Chwaraeodd Tom Lockyer ei ran mewn llechen lân i amddiffyn Luton ym Mirmingham ddydd Sadwrn wrth i dîm Nathan Jones ennill o gôl i ddim. Doedd dim golwg o Joe Morrell serch hynny.

Creodd Tom Bradshaw argraff mewn buddugoliaeth annisgwyl i Millwall yn Reading. Ni wnaeth y Cymro ddechrau’r gêm ond fe newidiodd pethau wedi iddo ddod i’r cae gydag ugain munud yn weddill. Roedd yr ymwelwyr ar ei hôl hi cyn i waith da Bradshaw arwain at gôl i Matt Smith ac aethant yn eu blaen i’w hennill hi gyda phum munud yn weddill.

Roedd buddugoliaeth brin i Wycombe yn Huddersfield, y tîm ar y gwaelod yn taro nôl i ennill o dair gôl i ddwy, gyda Joe Jacobson yn sgorio’r ail o’r smotyn. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Alex Samuel.

Chwaraeodd Andrew Hughes a Ched Evans i Preston wrth iddynt ennill y gêm ddarbi yn erbyn Blackburn nos Wener o ddwy gôl i un.

*

Cynghreiriau is

Gyda sawl gêm yn cael eu gohirio a Hull yn colli, roedd gan Doncaster gyfle da i gau’r bwlch ar frig yr Adran Gyntaf wrth ymweld â Sunderland. Ond colli’n drwm a fu hanes Matthew Smith a’i dîm.

Colli a wnaeth Charlton hefyd wrth iddynt groesawu Gillingham i’r Valley, tair i ddwy y sgôr yno wrth i Chris Gunter chwarae’r gêm gyfan. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Adam Matthews.

Cododd Plymouth i’r hanner uchaf gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Fleetwood. Chwaraeodd Luke Jephcott dri chwarter y gêm wrth i’w dîm ennill o gôl i ddim.

Ar ôl cael ei gohirio ddydd Sadwrn, cafodd gêm Lincoln gartref yn erbyn Accrington ei hail drefnu ar gyfer nos Sul ac roedd Brennan Johnson yn y tîm wrth i’r Imps geisio ymestyn eu mantais ar frig y tabl. Gorffen yn gyfartal, dwy gôl yr un, a wnaeth hi gyda Johnson yn creu gôl gyntaf ei dîm gyda chroesiad i Morgan Rogers.

Nid oedd gêm i Gasnewydd yn yr Ail Adran y penwythnos hwn ac roedd hi’n ddiwrnod amrywiol iawn i’r Cymry yn nhîm Bolton wrth iddynt hwy ennill o gôl i ddim yn erbyn Stevenage. Declan John a sgoriodd unig gôl y gêm, dim ond pedwaredd gôl ei yrfa a’i gyntaf yng nghynghreiriau Lloegr. Nid oedd hi’n ddiwrnod cystal i Jordan Williams wrth i’r bachgen o Fangor dderbyn cerdyn coch. Daeth Lloyd Isgrove (cofio fo?) oddi ar y fainc ar gyfer yr hanner awr olaf hefyd.

John – Mae cyn chwaraewr Caerdydd ac Abertawe bellach gyda Bolton

*

Yr Alban a thu hwnt

Nid oedd gêm i Christian Doidge y penwythnos hwn wrth i gêm Hibs yn Ross County gael ei gohirio a dyna a oedd ffawd Owain Fôn Williams a Dunfermline yn erbyn Dundee hefyd.

Fe aeth gêm Aberdeen yn ei blaen yn erbyn St Mirren ond nid oedd lle i unrhyw un o Gymry Pittodrie yn y tîm.

Roedd hi’n gyntaf yn erbyn ail ym mhrif adran Croatia ddydd Sadwrn wrth i Dinamo Zagreb drechu Osijek i symud dri phwynt yn glir ar frig y tabl. Gobaith am bencampwriaeth i Robbie Burton felly, er mai eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y Cymro yn y gêm hon.

Rhoddwyd cnoc i obeithion Juventus o ennill Serie A wrth iddynt golli yn Napoli ddydd Sadwrn, gan nad oedd Aaron Ramsey yn y garfan efallai.

Nid oedd Andy King yng ngharfan Leuven ychwaith wrth iddynt hwy guro Kortrijk ym mhrif adran Gwlad Belg nos Wener.

Mae tymor St. Pauli yn gwella yn yr Almaen. Maent wedi codi’n glir o safleoedd y gwymp yn y 2. Bundesliga gyda phedair buddugoliaeth yn eu pum gêm ddiwethaf, rhediad sydd wedi cyd-fynd a dychweliad James Lawrence i ganol yr amddiffyn. Chwaraeodd yno eto wrth i’w dîm drechu Nurnberg o ddwy gôl i un ddydd Sadwrn.

 

Gwilym Dwyfor