Mae amddiffynnwr Caerdydd, Perry Ng wedi galw ar ei gyd chwaraewyr i “gadw’r momentwm” yn dilyn buddugoliaeth y clwb o 3-1 yn erbyn Coventry City.

Mae cyn gapten Crewe Alexandra wedi bod yn rhan o bob un o’r chwe gêm y mae wedi bod yn gymwys i’w chwarae ers ymuno â’r Clwb ym mis Ionawr 2021.

Mae Mick McCarthy wedi codi Caerdydd i safle o fewn chwe phwynt o’r gemau ail gyfle, lai na mis ar ôl cychwyn yn ei swydd.

“Dw i wrth fy modd. Y prif reswm nes i arwyddo â’r clwb oedd i chwarae pêl-droed,” meddai.

“Dw i wedi bod yn chwarae’n gyson ac rydyn ni’n ennill gemau nawr, sy’n hyd yn oed gwell.”

Ond mae’r gŵr 24 oed yn cydnabod fod y “Bencampwriaeth yn gynghrair anodd iawn.”

“Mae’n rhaid i mi barhau i weithio’n galed a gobeithio y bydd y canlyniadau’n parhau i ddod.

“Ar y cyfan, rwy’n hapus iawn gyda’r ffordd dw i wedi dechrau fy ngyrfa yma.”

Mick McCarthy yn “rhoi hyder” i Perry Ng “ddangos yr hyn y gallaf ei wneud”

Wrth siarad am y tîm rheoli newydd, ychwanegodd Perry: “Mae Mick yn dod i mewn wedi fy helpu’n eithriadol.

“Mae wedi rhoi’r hyder i mi fynd allan a chredu ynof fy hun a dangos yr hyn y gallaf ei wneud.

“Rydyn ni’n ymladd dros bob pêl, gan beidio cymryd unrhyw risgiau yn y cefn.

“Mae’r sesiynau hyfforddi wedi bod yn galed iawn. Maen nhw wedi’n hysgogi ni ymladd a gweithio’n galed ac mae’r canlyniadau’n dangos hynny.

“Mae’n rhaid i ni gadw’r momentwm i fynd a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd.”

Caerdydd yn curo Coventry 3-1

Dwy gôl gan Kieffer Moore yn sicrhau’r fuddugoliaeth

Caerdydd yn arwyddo Perry Ng o Crewe Alexandra

Mae’r cefnwr de wedi arwyddo cytundeb fydd yn ei gadw gyda’r Adar Gleisio tan haf 2024