Wedi dwy fuddugoliaeth mewn chwe diwrnod bydd tîm rygbi Cymru yn troi eu sylw at y Goron Driphlyg.
Cymru yw’r unig wlad sy’n gallu ennill y tlws eleni, a hynny er nad ydynt wedi bod ar ei gorau ac wedi eu taro gan dipyn o anafiadau.
Ymhen pythefnos, Lloegr fydd yn ymweld â Stadiwm Principality ac mae Prif Hyfforddwr Cymru yn cydnabod fod lle i wella o hyd cyn hynny.
“Mae’n ddechrau braf iawn, ond rwy’n credu ei bod yn amlwg i bawb nad dyma’r perfformiad cyflawn rydym yn edrych amdano,” meddai Wayne Pivac.
“Mae Alun Wyn Jones wedi siarad am hyn yn yr ystafell newid a byddwn yn asesu ein gêm yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Dim ond rownd dau o’r twrnamaint yw hi, a bydd disgwyl i ni wella bob tro rydym yn chwarae.”
Ar ôl colli yn erbyn yr Alban ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth, fe gurodd Lloegr yr Eidal 41-18.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod Lloegr wedi ennill yn dda ac yn ôl ar y trywydd iawn,” ychwanegodd Wayne Pivac.
“Byddwn yn ôl yn y Principality felly byddwn yn ailymuno ac yn gwella’r rhannau y mae angen i ni eu gwella.”
Ar ôl dau benwythnos o rygbi mae Cymru yn ail yn y tabl tu ôl i Ffrainc.
“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol…”
Un sydd yn edrych ymlaen at wynebu Lloegr yw asgellwr ifanc Caerloyw, Louis Rees-Zammit, sydd wedi croesi’r llinell dair gwaith i Gymru yn y bencampwriaeth eleni.
Mae’n cyfaddef fod y posibilrwydd o chwarae yn erbyn Johnny May, sydd hefyd yn chwarae i Gaerloyw, yn ei gyffroi.
“Rwy’n hyfforddi gyda Johnny bob dydd ac yn dysgu llawer ganddo,” meddai.
“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol chwarae yn ei erbyn. Fe wnes i yn yr hydref, ond roedd yn chwarae ar yr asgell arall bryd hynny.
“Mae ychydig yn wahanol y tro hwn. Dylai fod yn dipyn o sioe. Dw i’n siŵr y bydd Jonny yn gyffrous i chwarae yn fy erbyn i hefyd.
“Yn amlwg, mae’n gêm enfawr. Bydd y bois yn gyffrous iawn, a byddwn yn rhoi bob dim i mewn i’r perfformiad.”
O’r deg gêm ddiwethaf rhwng Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd mae Cymru wedi bod yn fuddugol saith gwaith.
A bydd datblygiad cyflym Louis Rees-Zammit i fod yn chwaraewr rhyngwladol disglair yn rhoi dewisiadau lu i Wayne Pivac wrth i George North, Josh Adams a Jonathan Davies ddychwelyd o anafiadau a gwaharddiadau erbyn y gêm yn erbyn Lloegr.
Fodd bynnag mae’n bosib y bydd rhaid i Louis Rees-Zammit a chwaraewyr eraill sydd yn chwarae i glybiau yn Lloegr ddychwelyd i chwarae i’w clybiau y penwythnos hwn.
‘Cam i fyny’
Yn ddeunaw oed cafodd Louis Rees-Zammit ei gynnwys yng Ngharfan Cymru am y tro cyntaf yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd – ond bu rhaid iddo aros tan yr hydref i ennill ei gap cyntaf.
“Roedd ymuno â gwersyll y Chwe Gwlad llynedd yn dipyn o sioc i ddweud y gwir, hyd yn oed yr hyfforddi,” meddai Rees-Zammit.
“Yn amlwg, wnes i ddim chwarae bryd hynny, ond wrth hyfforddi roeddwn i allan o wynt ar ôl pum munud! Dw i wedi gweithio gyda’r tîm cryfder a chyflyru, ac rwy’n llawer mwy ffit nawr.
“Mae’n gam i fyny ac mae’r dwysedd yn wahanol iawn ar lefel ryngwladol.”
Mae’r asgellwr bellach yn ugain oed, ac ers ennill ei gap rhyngwladol cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc mae wedi ennill chwe chap a sgorio pedwar cais i’w wlad.