Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 y dylai’r weithred o ‘gymryd y ben-glin’, neu benlinio i gefnogi’r ymgyrch wrth-hiliaeth, “fod yr un mor bwerus ag erioed”.
Daw ei sylwadau ar ôl i Yan Dhanda, chwaraewr canol cae yr Elyrch, dderbyn negeseuon hiliol ar Instagram ar ôl y gêm gwpan yn erbyn Manchester City ganol yr wythnos.
Fe ddaeth y negeseuon wrth iddo gael ei feirniadu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol am dacl flêr ar Rodri wrth i’r Elyrch golli o 3-1 yn Stadiwm Liberty.
Cafodd yr heddlu wybod am y mater ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad, tra bod lle i gredu bod y sawl oedd yn gyfrifol am anfon y negeseuon wedi cael gwaharddiad dros dro o lwyfannau Facebook ac Instagram.
Fe fu hiliaeth yn broblem ers degawdau yn y byd pêl-droed, ac fe fu cynnydd amlwg eto mewn achosion ers i chwaraewyr fod yn ‘cymryd y ben-glin’ cyn gemau ond yn ôl Steve Cooper, mae’n bwysig nad yw’r ymgyrch yn mynd yn angof.
“Gallen ni gyd fod yn gwneud mwy oherwydd mae’n amlwg fod yna broblem,” meddai.
“Dw i’n credu bod yn rhaid i hynny fod yn ein meddyliau o hyd, ydyn ni’n gwneud digon, pwy bynnag ydyn ni?
“Felly fe fydd yna safbwynt a meddylfryd o hyd i beidio â gadael i bethau bylu, os liciwch chi.
“Os oedd cymryd y ben-glin yn bwerus ar y dechrau, yna fe ddylai fod yr un mor bwerus nawr ac fe ddylai fod yr un mor bwerus yn y dyfodol o ran y neges mae’n ceisio ei chyfleu.
“Felly hefyd o ran popeth arall sy’n brwydro yn erbyn gwahaniaethu yn y gêm.
“Dw i’n credu bod rhaid i ni gyd gofio bod angen meddylfryd o geisio gwella pethau a gobeithio y bydd pethau [yn gwella] yn y dyfodol a bod bywyd yn well i bawb.”
Ymateb Yan Dhanda i’r helynt
Yn y cyfamser, mae Steve Cooper wedi canmol ymateb Yan Dhanda i’r digwyddiad, gan ddweud ei fod e a’r clwb yn falch iawn ohono fe a’i dreftadaeth fel chwaraewr o dras Asiaidd.
Daw sylwadau’r rheolwr wrth iddo fe gyfarfod â’r wasg cyn gêm nesa’r Elyrch yn erbyn Nottingham Forest yn Stadiwm Liberty nos Fercher (Chwefror 17).
“Dw i wedi siarad â Yan bob dydd ers nos Fercher,” meddai.
“Dw i’n credu ei bod hi wedi bod yn sefyllfa anodd a phob clod iddo fe am y ffordd mae e wedi ymddwyn a’r ffordd mae e wedi cyfleu ei hun wrth y cyfryngau.
“Nid yn unig mae’n rhaid iddo fe ddelio â chael ei gamdrin yn bersonol, ond mae e hefyd yn ceisio sicrhau, nid bod y peth yn troi’n rhywbeth positif ond fod y neges yn mynd ar led o ran sut allwn ni wella pethau.
“Os yw hynny drwy ddweud sut dyw pethau heb gael eu trin yn dda yna, yn y tymor hir, mae’n mynd i helpu’r achos.
“Mae’n un o’r [sefyllfaoedd] hynny lle alla i na chi ddim uniaethu oherwydd, fel dywedodd e, mae e o dras arall ac o dras mae e’n falch iawn ohoni.
“Rydyn ni’n falch iawn o hynny hefyd.
“Ond wrth gael ei gamdrin ar sail y dreftadaeth honno, dim ond fe sy’n gallu deall hynny ac ymdopi â’r peth.
“Fel dywedais i’n gyhoeddus, ro’n i’n ymwybodol iawn o’r gymuned mae e’n rhan ohoni a’i dreftadaeth, nid oherwydd [y digwyddiad] hwn ond am fod gyda fi ddiddordeb beth bynnag yn y chwaraewyr a’u teuluoedd, o le maen nhw’n dod a’u treftadaeth nhw.
“Dw i’n credu bod Yan wedi bod mewn sefyllfa anodd iawn a dw i’n credu ei fod e wedi ymdopi’n wych. Roedden ni’n falch iawn ohono fe beth bynnag, ond yn fwy fyth nawr.
“Y cyfan allwn ni ei wneud yw ei gefnogi fe a sicrhau ei fod e’n gwybod ein bod ni y tu ôl iddo fe, 100%.”
Ydy’r broblem yn gwaethygu?
Dywed Steve Cooper nad yw’n sicr a yw’r broblem yn gwaethygu, ond mae’n cydnabod “yn sicr” fod yna broblem yn y byd pêl-droed.
“Yr hyn sy’n bwysig yw fod yna fod dynol, waeth bynnag am eu rhyw neu eu treftadaeth, yn cael ei gamdrin,” meddai.
“P’un a yw’r broblem yn gwaethygu neu beidio, dw i ddim yn siŵr, ond un peth sy’n sicr yw fod yna broblem.
“Yr hyn sy’n rhaid i ni ei sicrhau yw ein bod ni’n parhau i siarad a pheidio â’i anwybyddu ac os mai dyna’r ffordd orau o helpu i ostwng lefelau’r gamdriniaeth ar y cyfan, dyna sy’n rhaid i ni ei wneud.
“Dyw e ddim yn neis, oherwydd mae un o’n bois ni wedi diodde’r peth ond mae e wedi digwydd ac mae e’n ymdopi â’r peth yn wych.
“Gobeithio y bydd pobol yn talu sylw i’r Digwyddiad ac yn rhoi’r mesurau cywir yn eu lle i gosbi’r rhai sy’n cam-drin a gobeithio y bydd hynny’n lleihau wrth symud ymlaen.
“Dw i ddim yn credu bod [y cyfryngau cymdeithasol] yn gwneud digon o ran beth ddigwyddodd i Yan, a dyna’r cyfan alla i siarad amdano fe.
“Dw i ddim yn siŵr beth sy’n digwydd yn unman arall.
“Ond gobeithio fod pethau’n gwella a bod y mesurau cywir yn cael eu rhoi ar waith a bod pobol sydd wedi gwneud y pethau ofnadwy hyn yn cael eu henwi.
“Dywedon ni’n gyhoeddus ein bod ni’n siomedig o ran y gosb gafodd y defnyddiwr o ran sefyllfa Yan, a gobeithio nad yw hynny wedi gosod cynsail oherwydd fe ddylai [y gosb] fod yn fwy llym na hynny.”
- Yn y cyfamser, mae Steve Cooper yn dweud bod yr adroddiadau’n ei gysylltu â swydd rheolwr Crystal Palace “yn amherthnasol” ac nad yw’n “werth siarad amdano”, gan ychwanegu mai’r “unig beth dw i’n canolbwyntio arno yw’r tîm a pharatoi ar gyfer y gêm nesaf”. Mae sôn fod y clwb yn chwilio am olynydd i Roy Hodgson, wrth i’w gytundeb ddod i ben ar ddiwedd y tymor.