Mae chwaraewr canol cael Cymru a Manchester United, Dylan Levitt, wedi cytuno i dreulio cyfnod ar fenthyg yn Croatia gyda NK Istra 1961, yn amodol ar gliriad rhyngwladol.

Treuliodd Levitt hanner cyntaf yr ymgyrch eleni gyda Charlton yn League One, ond cafodd ei alw’n ôl gan Manchester United, ar ôl iddo gael ei gyfyngu i bum ymddangosiad yn unig.

“Mae’r Cymro wedi penderfynu parhau gyda’i ddatblygiad drwy brofi chwarae dramor,” meddai Manchester United ar eu gwefan.

“Hoffai pawb yn United ddymuno pob lwc i Dylan y tymor hwn wrth i ni ddilyn ei gynnydd yn agos yn Stadiwm Aldo Drosina.”

Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i United yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf yn erbyn Astana yn Kazakhstan, mae’r llanc 20 oed wedi mynd ymlaen i ennill pum cap rhyngwladol.

Gallai chwarae i NK Istra 1961 am y tro cyntaf yn erbyn HNK Sibenik yng Nghwpan Croatia ddydd Mercher (Chwefror 24).

Dylan Levitt mewn trafodaethau ynghylch symud ar fenthyg i Croatia

Byddai symud yn beth da i Levitt o ran ei obeithion o gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros yr haf hwn