Gallai Jonny Williams chwarae yn ei gêm gyntaf i dîm pêl-droed Caerdydd wrth iddyn nhw deithio i Luton yn y Bencampwriaeth heno (nos Fawrth, Chwefror 16).

Dydy’r Cymro ddim wedi chwarae i’w glwb newydd eto, a hynny yn dilyn anaf.

Ond mae’r rheolwr Mick McCarthy yn gobeithio y bydd e’n holliach ar gyfer y daith.

Mae disgwyl i Joe Ralls a Junior Hoilett golli allan eto, ac mae’r golwr Alex Smithies wedi bod yn sâl ac mae amheuon amdano fe hefyd.

Ond bydd Josh Murphy yn gobeithio cadw ei le ar ôl sgorio yn y fuddugoliaeth dros Coventry.

Gallai Elijah Adebayo a Tom Ince chwarae i Luton wrth i’r rheolwr o Gymro Nathan Jones ddefnyddio’r chwaraewyr ymylol.

Roedd Ince ar y fainc ar y penwythnos.