Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi bod chwarter poblogaeth Cymru bellach wedi derbyn brechlyn yn erbyn y coronafeirws.
“Rydyn ni wedi cyrraedd ein carreg filltir gyntaf ar amser, ond ni fyddwn yn gorffwys nawr,” meddai Vaughan Gething yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, Chwefror 15.
“Rydym nawr wedi brechu bron 785,000 o bobol, sydd yn gyfystyr ag un o bob pedwar o bobol yma yng Nghymru.
“Byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”
Amlinellodd y Gweinidog Iechyd pwy fydd yn cael eu brechu nesaf, a bod disgwyl i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 gael eu brechu erbyn diwedd mis Ebrill.
- Pobol rhwng 65 a 69 oed
- Pobol 16 i 64 oed a chyda chyflwr iechyd sylfaenol
- Oedolion iau mewn lleoliadau gofal preswyl
- Mwyafrif o ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am bobol sy’n agored i niwed
Y nod yw brechu pobol yn y grwpiau blaenoriaeth hyn yr un pryd ag apwyntiadau ail ddos y pedwar grŵp cyntaf.
“Ymdrech logistaidd enfawr arall”
“Mae hon yn ymdrech logistaidd enfawr arall a byddwn yn defnyddio’r holl adnoddau sydd gennym i’w defnyddio yn y dyddiau a’r wythnosau i ddod, gan gynnwys fferyllfeydd lleol, i sicrhau y gallwn frechu cymaint o bobl â phosibl.
“Ond mae’n rhaid i ni ystyried arafiad o gyflenwad y brechlyn ar draws y DU fel rhan o’n cynllun dros y cwpl o wythnosau nesaf.
“Rydw i eisiau bod yn glir – rydyn wedi gweithio hyn mewn i’n cynllun ac ni fydd hyn yn canslo apwyntiad unrhywun am ail ddos.
“Rydyn ni’n disgwyl cyflenwadau i gynyddu yn gyflym erbyn mis Mawrth ac os yw hyn yn digwydd, byddwn yn gallu cynnig brechlyn i bawb yng ngrwpiau pump i naw erbyn diwedd mis Ebrill.”
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd hefyd roi clod i fyrddau iechyd Cymru am weithio gyda Phrifysgol Rhydychen ar ymchwil Covid-19 – eglurodd y gallai cyffur sy’n cael ei ddefnyddio i drin arthritis achub un ym mhob 25 person sy’n ddifrifol wael â coronafeirws.
‘Newidiadau bach’
Ychwanegodd Vaughan Gething y gellid gwneud “newidiadau bach” i’r cyfyngiadau er mwyn rhoi “hyblygrwydd i deuluoedd”.
Ond mae’n rhaid i Gymru fod yn “ofalus iawn” ynglŷn â dod allan o’i chyfyngiadau, a hynny oherwydd presenoldeb mathau newydd a mwy heintus o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig, meddai Mr Gething.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru adolygu’r rheolau ddydd Gwener, Chwefror 19, ond doedd dim modd i’r Gweinidog Iechyd amlinellu beth fydd y newidiadau.
Daeth y cyfyngiadau Lefel 4 i rym yn wreiddiol ar Ragfyr 20 y llynedd.
Fodd bynnag, dywedodd Mr Gething bod “cynllun graddol a hyblyg” wedi cael ei ddatblygu gydag awdurdodau addysg lleol ac undebau i alluogi plant yn y cyfnod sylfaen i ddychwelyd i’r ysgol o ddydd Llun nesaf (22 Chwefror).
Ailgyflwyno cyfyngiadau yn y dyfodol
Doedd y Gweinidog Iechyd ddim am wrthod y syniad, ‘chwaith, y gellid ailgyflwyno cyfyngiadau yng Nghymru os bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Gething y byddai gan weinidogion gyfrifoldeb i weithredu pe bai “cynnydd sylweddol” mewn achosion Covid-19.
Daw hyn wedi i Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, ddweud y byddai ei lywodraeth yntau eisiau “ymagwedd ddi-droi-nôl” at lacio’r cyfyngiadau.
“Dydyn ni ddim eisiau gweld dychwelyd at orfod cyflwyno mwy o gyfyngiadau ond fyddwn i ddim yn dweud y gallen ni roi gwarant haearn bwrw na fyddai byth yn digwydd,” meddai Mr Gething.
“Er enghraifft, pe ydym wedi dod o hyd i’n ffordd o gael gwared ar nifer o gyfyngiadau ond yna gwelsom gynnydd sylweddol yn y feirws – boed yn amrywiolyn newydd neu fel arall – yna byddai gennym gyfrifoldeb i weithredu.
“Dyna pam mae angen i bob un ohonom barhau i atgoffa ein hunain bod gennym (i) y lle hwn, gydag ysgolion ar fin dychwelyd yr wythnos nesaf i rai o’n plant ieuengaf sy’n mynychu, gyda chyfraddau marwolaeth is, gyda chyfraddau achosion is ledled y wlad.”
Amrywiolyn Caint
Amrywiolyn Caint yw’r math amlycaf o’r feirws yng Nghymru ac mae achosion o fersiwn o’r math hwnnw wedi’u cofnodi’n agos at y ffin, ym Mryste a Lerpwl.
Mae cyfanswm o 13 achos o amrywiolyn De Affrica wedi’u canfod yng Nghymru – gyda phob un ond dau o’r rhain â chysylltiadau â theithio rhyngwladol.
“Mae’n parhau i fod yn bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i gael lefelau coronafeirws yn ein cymunedau mor isel ag y gallwn,” meddai Mr Gething.
“Y ffordd orau o leihau’r tebygolrwydd y bydd amrywiolion newydd yn dod i’r amlwg yw cadw heintiau newydd yn isel.”
Ffigurau diweddaraf
Mae achosion yn parhau i ostwng – mae bellach llai na 100 o achosion fesul 100,000 o bobol ac mae’r rhif R yn parhau i fod rhwng 0.7 a 0.9.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 16 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.
Mae’n golygu bod 5,137 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru,
Mae 363 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 199,518 ers dechrau’r pandemig.
Mae 784,809 o bobol wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn ac mae 5,409 wedi derbyn yr ail ddos.
Y gyfradd wythnosol fesul ardaloedd awdurdod lleol
O’r 22 ardal leol yng Nghymru, mae tair wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau achosion ac 18 wedi gweld cwymp, gydag un wedi aros yr un fath.
Wrecsam oedd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru, i lawr o 229.5 i 161.1, gyda 219 o achosion newydd.
Y tair ardal a gofnododd gynnydd yn y gyfradd wythnosol oedd:
– Powys (i fyny o 84.6 i 120.1, gyda 159 o achosion newydd)
– Conwy (i fyny o 110.9 i 113.5, gyda 133 o achosion newydd)
– Caerdydd (i fyny o 100.0 i 100.6, gyda 369 o achosion newydd)