Mae pedwerydd aelod o Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi marw â Covid-19.
Roedd Kevin Hughes, 41, o Y Fali, Ynys Môn, yn gweithio ar y ddesg gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn Llanelwy.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, fore Sul (Chwefror 14) ar ôl brwydro â Covid-19 ers sawl wythnos.
Roedd Kevin Hughes, oedd yn gefnogwyr brwd Clwb Pêl-droed Lerpwl, wedi gweithio fel dadansoddwr desg gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth ers mis Mai 2017.
Cyn ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, bu’n gweithio i wasanaeth Chwilio ac Achub RAF Y Fali ac yng Nghyngor Sir Ynys Môn.
Mae’n gadael ei wraig Emma a’i dri o blant, Liam, Sioned a Jamie.
“Colled fawr ar ôl Kevin”
Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Bydd colled Kevin yn cael ei deimlo’n ddwfn gan bawb yma yn nhîm Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf ag Emma, plant Kevin a’i deulu ehangach.
“Byddwn nawr yn canolbwyntio ar gefnogi ei deulu a chydweithwyr mewn profedigaeth ar yr adeg anodd hon.”
Disgrifiodd Kara Walsh, rheolwr desg gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth, Kevin Hughes fel aelod “uchel ei barch” o’r tîm.
“Mae’r negeseuon yr wyf fi a’r tîm wedi’u derbyn gan bob rhan o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ers iddo farw, yn siarad cyfrolau o gymaint yr oedd pobol yn ei hoffi,” meddai.
“Bydd pob un ohonom yn teimlo colled wirioneddol ar ei ôl.”
Kevin Hughes yw pedwerydd aelod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi marw â Covid-19.
Mae ei farwolaeth yn dilyn marwolaethau Alan Haigh, Paul Teesdale a Gerallt Davies.