Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio bod yn rhaid dysgu gwersi o’r “camgymeriadau” a wnaed yn y gorffennol wrth fynd ati’n rhy gyflym i lacio mesurau’r cyfyngiadau symud.

Mae nifer o arbenigwyr wedi galw am ddull gofalus, cyn cyhoeddiad Boris Johnson ddydd Llun nesaf am “drywydd” ar gyfer codi cyfyngiadau yn Lloegr.

Mae Boris Johnson yn wynebu pwysau gan ASau o’i blaid ei hun i lacio’r cyfyngiadau symud yn gyflym, ar ôl llwyddiant y rhaglen frechu hyd yma.

Fe fydd Mark Drakeford yn cyhoeddi adolygiad o gyfyngiadau Cymru ddydd Gwener.

Ond rhybuddiodd yr Athro Neil Ferguson, sy’n cynghori Llywodraeth Prydain fel rhan o’r Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirws Anadlol Newydd a Datblygol, fod angen mwy o wybodaeth am ba mor effeithiol fydd y brechlynnau.

Dywedodd wrth Good Morning Britain: “Mae gennym ganlyniadau astudiaethau gwyddonol, treialon clinigol, ond mae’r byd go iawn yn beth gwahanol ac felly, unwaith eto fel y dywedodd y Llywodraeth, mae angen i ni weld faint o amddiffyniad sydd gan bobl sydd wedi’u brechu, pa mor gyflym y mae cyfraddau marwolaethau’n gostwng cyn y gallwn fod yn gwbl hyderus ynglŷn â mynd y cam nesaf hwnnw ac ailagor.”

Dywedodd yr Athro Ferguson ei fod yn “falch” o “strategaeth ofalus” y Llywodraeth hyd yma, gan ychwanegu: “Y peth nad ydyn ni eisiau ei ailadrodd yw beth sydd wedi digwydd ar achlysuron blaenorol – sef ymlacio’n rhy gyflym.”

Wrth adleisio’r farn hon, dywedodd yr Athro Gabriel Scally, llywydd yr adran epidemioleg ac iechyd cyhoeddus yn y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol, fod angen “cynllun strategol” ar gyfer llacio cyfyngiadau.

Dywedodd yr Athro Scally, sy’n aelod o Sage Annibynnol, fod yn rhaid i achosion ddod i lawr “yn gyson”, gan ychwanegu: “Ni allwn ailadrodd y camgymeriadau a wnaethom yn y gorffennol drwy lacio’r cyfyngiadau mewn mannau lle mae’r feirws yn cylchredeg o hyd.”