Mae cyfraddau achosion coronafeirws wedi gostwng yn 95% o holl siroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys 18 allan o’r 22 sir yng Nghymru.

Dim ond 23 o siroedd Prydain sydd wedi dangos cynnydd yn y cyfraddau saith diwrnod i bob 100,000 o’r boblogaeth dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r rhain yn cynnwys tair sir yng Nghymru:

  • Powys (i fyny o 84.6 i 120.1, gyda 159 o achosion newydd)
  • Conwy (i fyny o 110.9 i 113.5, gyda 133 o achosion newydd)
  • Caerdydd (i fyny o 100.0 i 100.6, gyda 369 o achosion newydd.

Wrecsam sydd â’r cyfraddau uchaf yng Nghymru, ond maen nhw i lawr o 229.5 i 161.1, gyda 219 o achosion newydd.

O’r siroedd eraill sydd wedi gweld cynnydd, mae 8 yn yr Alban a 12 yn Lloegr, heb ddim un yng Ngogledd Iwerddon.

Corby yn swydd Northhampton sydd â’r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig, ar 383.6 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth.