Mae arweinwyr milwrol Myanmar wedi gwrthod rhyddhau arweinydd etholedig y wlad, Aung San Suu Kyi, a gafodd ei harestio ar ddechrau coup milwrol yn y wlad.

Roedd disgwyl iddi gael ei rhyddhau heddiw, dydd Llun, Chwefror 15, ond mae’n parhau i fod wedi ei arestio yn ei chartref am y drosedd fach o fod â walkie-talkies heb eu cofrestru yn ei meddiant.

Mae’r lluoedd arfog hefyd yn mynnu nad oedd canlyniad etholiad y wlad ym mis Tachwedd yn ddilys, ar ôl i blaid Aung San Suu Kyi sicrhau buddugoliaeth swmpus – ac mae’r comisiwn etholiadol wedi gwrthod yr honiadau.

Ar ôl ymestyn y cyfnod bydd Aung San Suu Kyi yn cael ei dal tan Chwefror 17, yn ôl ei chynrychiolydd cyfreithiol mae’n debyg y bydd hi’n ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo bryd hynny.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud ei bod yn “hynod bryderus” am y coup milwrol ym Myanmar.

Mae disgwyl i’r penderfyniad gynyddu’r tensiynau rhwng y fyddin a’r protestwyr ymhellach, sydd yn galw ar y llywodraeth a etholwyd ganddynt i ddychwelyd i rym, a’i bod hi a’i llywodraeth yn cael rhyddid i lywodraethu.

Mae protestwyr ym Myanmar wedi anwybyddu’r gwaharddiad ar brotestiadau yn y wlad er mwyn dangos eu dicter ar ôl i’r arweinydd Aung San Suu Kyi gael ei symud o’i swydd gan y lluoedd arfog.

Parhaodd protestwyr i ymgynnull ar draws Myanmar ddydd Llun a hynny ar ôl i’r awdurdodau ddiffodd mynediad y wlad i’r rhyngrwyd.

Mae’r fyddin yn cyfiawnhau ei symud o’i swydd drwy ddyfynnu cymal yng nghyfansoddiad 2008, a weithredwyd yn ystod rheolaeth filwrol, sy’n dweud mewn achosion o argyfwng cenedlaethol y gellir trosglwyddo pwerau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol y llywodraeth i’r arweinwyr milwrol.

Galw ar arweinwyr rhyngwladol i sicrhau bod y coup milwrol yn Myanmar yn methu

Daw galwadau’r Cenhedloedd Unedig wrth i Aung San Suu Kyi gael ei chyhuddo’n ffurfiol
Aun San Suu Kyi ynghanol tyrfa o gefnogwyr

Llywodraeth Prydain yn beirniadu’r coup milwrol yn Myanmar

Yn ôl adroddiadau, mae’r fyddin wedi arestio arweinydd sifil y wlad Aung San Suu Kyi