Mae cyn Aelod Seneddol Llafur Aberafan, Dr Hywel Francis, wedi marw yn 74 oed.

Bu farw yn Ysbyty Treforys yn Abertawe dros y penwythnos yng nghwmni ei deulu.

Cynrychiolodd Aberafan yn San Steffan rhwng 2001 a 2015.

Tra’n Aelod Seneddol bu’n gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol, cadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar archifau a Syndrom Down a chadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig gan feithrin perthynas agos gyda’r Cynulliad yng Nghaerdydd.

Ef hefyd oedd trefnydd cenedlaethol Ymgyrch Ie Dros Gymru yn 1997.

Roedd hefyd yn hanesydd blaenllaw a chyhoeddodd yn helaeth ar gymunedau glofaol De Cymru. Ac yntau’n fab i’r undebwr adnabyddus Dai Francis, roedd wedi’i drwytho yn y traddodiad hwnnw, a bu’n flaenllaw wrth sefydlu prifysgol y Cymoedd yn ei ardal enedigiol ym mlaenau Cwm Nedd.

Teyrngedau

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi talu teyrnged iddo.

“Rwy’n tristáu o glywed am farwolaeth Hywel,” meddai.

“Bydd dylanwad Hywel ar stori ein cenedl yn un fydd yn cael ei gofio am byth, a’i gyfraniad gwerthfawr fel Aelod Seneddol Llafur Cymru dros Aberafan.

“Mae ei lyfrau sy’n cofnodi brwydr glowyr Cymru yn erbyn Thatcheriaeth, a’u brwydr yn erbyn ffasgaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, yn gofnod o’n hanes.

“Drwy ei waith a’i fywyd dangosodd pa mor bwerus y gall y syniad o solidariaeth fod.

“Mae ein meddyliau i gyd gyda Mair ei deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cartref cysgodol Llafur y Deyrnas Unedig, Nick Thomas-Symonds ei fod wedi tristau o glywed y newyddion am Dr Hywel Francis a “ymdrechodd i wneud bywyd yn well i eraill”.

Cyn ei yrfa gwleidyddol, roedd yn athro addysg barhaus ym Mhrifysgol Abertawe, gyda’r nod o ehangu mynediad cymunedol at ddysgu.

Cafodd ei dderbyn fel cymrawd er anrhydedd i’r Brifysgol yn 2012.