Mae ’na alw ar arweinwyr rhyngwladol i sicrhau bod y coup milwrol yn Myanmar yn methu.

Daw galwadau Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, wrth i’r heddlu gyhuddo Aung San Suu Kyi yn ffurfiol o beidio ymchwilio i honiadau’r fyddin am dwyll etholiadol yn ystod yr etholiadau diweddar. Cafodd hi ei disodli fel arweinydd Myanmar ar ôl i’r fyddin gyhoeddi ddydd Llun y byddan nhw mewn grym am flwyddyn.

Mae’r llywodraeth filwrol newydd hefyd wedi atal mynediad at Facebook. Mae’r wefan gymdeithasol yn boblogaidd iawn yn Myanmar.

Mewn cyfweliad gyda Washington Post Live, dywedodd Antonio Guterres y byddai’r Cenhedloedd Unedig yn cydweithio gydag arweinwyr rhyngwladol “i roi digon o bwysau ar Myanmar er mwyn sicrhau bod y coup yn methu.”

Roedd gweinidogion tramor yr G7 wedi galw ddydd Mercher am ryddhau Aung San Suu Kyi ac eraill ac adfer grym i’r llywodraeth etholedig.