Mae astudiaeth, sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, wedi cael ei lansio i benderfynu a ellir cyfuno brechlynnau coronafeirws yn ddiogel ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos.

Nod yr astudiaeth, sydd wedi derbyn £7 miliwn o gyllid gan Dasglu Brechu’r Llywodraeth, yw ceisio gweld a yw cyfuno dau frechlyn yn rhoi gwell amddiffyniad rhag y firws yn lle defnyddio dau ddos o’r un brechlyn.

Daw’r astudiaeth wedi i brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, rybuddio y bydd cyflymder cyflwyno’r brechlyn yn arafu wrth i fwy o bobl gael eu hail bigiad.

Mewn cynhadledd newyddion yn Rhif 10 ddydd Mercher (Chwefror 3), dywedodd fod awgrymiadau y gallai pob oedolyn yn y Deyrnas Unedig gael eu dos cyntaf erbyn diwedd mis Mai a’r ail erbyn diwedd mis Awst yn “optimistaidd iawn”.

Mae Boris Johnson wedi canu clodydd yr ymdrech “aruthrol” gan weithwyr iechyd i gael pigiad cyntaf i fwy na 10 miliwn o bobl – bron i un rhan o bump o’r boblogaeth o oedolion – ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Hyblygrwydd

Fodd bynnag, dywedodd dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Jonathan Van-Tam, sy’n un o’r rhai sy’n gyfrifol am yr astudiaeth newydd, y byddai gallu cyfuno brechlynnau yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt yn y dyfodol.

“O ystyried yr heriau anochel o imiwneiddio niferoedd mawr o’r boblogaeth yn erbyn Covid-19 a chyfyngiadau cyflenwi byd-eang posibl, mae manteision pendant i gael data a allai gefnogi rhaglen imiwneiddio fwy hyblyg, os oes angen ac os caiff ei chymeradwyo gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau,” meddai.

Bydd yr astudiaeth, sef Com-Cov, yn ystyried cyfuno dau ddos o frechlynnau Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca a Pfizer/BioNTech.

Ond dywedodd ymchwilwyr yng Nghonsortiwm Gwerthuso’r Atodlen Imiwneiddio Genedlaethol (NISEC), sy’n cynnal yr astudiaeth, y bydd mwy o frechlynnau’n cael eu hychwanegu at y rhestr wrth iddynt gael eu cymeradwyo i’w defnyddio.

Mae disgwyl i’r canlyniadau cychwynnol fod ar gael yn ystod yr haf – mewn pryd i lywio polisi ar ddefnyddio brechlynnau ymhlith grwpiau oedran iau.

Dywedodd y gweinidog brechlynnau, Nadhim Zahawi: “Mae hwn yn dreial clinigol hynod bwysig a fydd yn rhoi tystiolaeth i ni ar ddiogelwch y brechlynnau hyn pan gânt eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd.

“Ni fydd unrhyw beth yn cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio’n ehangach, nac fel rhan o’n rhaglen defnyddio brechlynnau, nes bod ymchwilwyr a’r rheoleiddiwr yn gwbl hyderus bod y dull yn ddiogel ac yn effeithiol.”