Mae mwy na 60% o’r pedwar grŵp blaenoriaeth gyntaf yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19, meddai’r gweinidog iechyd Vaughan Gething.

Dywedodd wrth Times Radio bod mwy na 400 o safleoedd ar draws Cymru bellach yn rhoi’r brechlyn, gyda disgwyl i nifer y canolfannau brechu torfol gynyddu i 40.

“Mae hynny wedi digwydd oherwydd ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd a llywodraeth leol, a gyda chymorth cynllunwyr milwrol hefyd, felly mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

Ychwanegodd eu bod bellach wedi cwblhau rhoi brechlynnau i breswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn, ar wahân i “lond llaw” oedd wedi cael achosion diweddar o Covid-19.

“Ry’n ni bellach wedi gwneud 60% o’r grwpiau blaenoriaeth un i bedwar, felly cynnydd cyflym iawn erbyn hyn,” meddai Vaughan Gething.

…ond dim “ailagor sylweddol”

Fodd bynnag, dywedodd Vaughan Gething na ellir cael “ailagor sylweddol” yng Nghymru er bod cyfraddau coronafeirws yn disgyn.

“Mae hynny oherwydd nad oes llawer o le i symud gennym. Er gwaethaf yr holl newyddion da am ein cyfraddau achosion yn gostwng, maent yn dal i fod ychydig o dan 125 [o achosion fesul 100,000 o bobl] sydd dal yn eithaf uchel.

“Roedd gennym lefelau brawychus cyn y Nadolig, gyda bron i 700 o achosion fesul 100,000.

“Felly rydym wedi gwneud cynnydd mor dda ond mae’n dal i fod yn uchel ac mae pwysau mawr ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol o hyd.

“Mae gofal critigol heddiw yn gweithredu ar 130% o’i gapasiti arferol. Felly ni allwn gael ailagor sylweddol oherwydd ein bod yn credu y byddai hynny’n arwain at gynnych mewn achosion drachefn ac o bosibl yn gorlethu ein gwasanaeth.”

Ysgolion

Dywedodd mai’r “flaenoriaeth gyntaf” i Lywodraeth Cymru yw dechrau dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, gan ddechrau gyda phlant ieuengaf ysgolion cynradd.

“Rydyn ni’n obeithiol y byddwn ni’n gallu dechrau hynny ar ôl hanner tymor, felly o’r wythnos sy’n dechrau ar Chwefror 22, ac rydyn ni’n meddwl y byddwn ni’n gallu canolbwyntio hynny ar ein plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd i ddechrau,” meddai.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wneud cyhoeddiad amser cinio ddydd Gwener y bydd plant ieuengaf ysgolion cynradd yn dychwelyd i’r dosbarth ar ôl hanner tymor mis Chwefror.

Disgyblion cyfnod sylfaen – rhwng tair a saith oed – fyddai’r cyntaf i ddechrau dysgu wyneb yn wyneb unwaith eto.

Amrywiolyn

Dywedodd hefyd y byddai swyddogion yn cwrdd yn ddiweddarach i drafod yr amrywiolyn o’r firws o Dde Affrica ar ôl i dri achos, sydd ddim â chysylltiad amlwg â theithio, gael eu cofnodi yng Nghymru.

Fe fydd arbenigwyr iechyd yn ceisio gweld pwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw a lle maen nhw wedi bod er mwyn ceisio darganfod sut gawson nhw eu heintio gyda’r amrywiolyn, meddai.

“Mae’r tri achos yn dra gwahanol felly fydd pob un yn gallu dweud rhywbeth gwahanol wrthym ni,” ychwanegodd Vaughan Gething.

“Ry’n ni’n ystyried cynnal profion wedi’u targedu ar hyn o bryd er mwyn ceisio adnabod mwy o bobl maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw.

“Dy’n ni ddim yn credu bod sail i gynnal profion ar y gymuned ehangach fel sy’n digwydd yn Lloegr.”

Ffigurau diweddaraf

  • Cofnodwyd 544 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 194,525.
  • Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 35 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 4,867.
  • Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 490,570 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi, cynnydd o 28,073 o’r diwrnod cynt.
  • Dywedodd yr asiantaeth fod 1,216 o ail ddosau hefyd wedi’u rhoi, cynnydd o 56.