Bydd Plaid Cymru yn ymrwymo i gynllun adfer i fynd i’r afael â chleifion canser sydd heb gael diagnosis a heb eu trin o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol y blaid.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AoS, y byddai cynllun adfer y blaid yn ffurfio strategaeth ganser ehangach fyddai’n blaenoriaethu diagnosis cynnar ac yn sicrhau gofal digonol.

Roedd Plaid Cymru wedi rhybuddio ddoe (dydd Mercher, Chwefror 4) bod angen cynllun i fynd i’r afael â thriniaethau canser yn ystod y cyfnod y coronafeirws.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Canser y Byd, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth y bydd perfformiad Cymru o ran canlyniadau canser  yn gwaethygu os na fydd camau’n cael eu cymryd.

Daw hyn ar ôl i elusen ganser MacMillan amcangyfrif bod 3,500 o gleifion canser wedi colli gwasanaethau triniaeth ers dechrau’r pandemig.

“Dinistriol”

“Mae effaith y pandemig ar driniaeth canser yn ddinistriol. Mae miloedd o bobol wedi methu diagnosis, a bydd llawer yn awr yn mynd i lwybrau triniaeth canser yn ystod camau llawer diweddarach o’u salwch.

“Byddai Plaid Cymru yn cyflwyno cynllun adfer pendant, uchelgeisiol – fel rhan o strategaeth canser ehangach – i flaenoriaethu diagnosis cynnar, cydnabod y miloedd sydd heb ddiagnosis ar hyn o bryd a sicrhau gofal digonol i’r cleifion hynny.

“Byddem yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru, yn sicrhau bod gan bob claf canser yr hawl gyfreithiol i weithiwr allweddol i’w helpu drwy driniaeth a thu hwnt, ac i ddefnyddio unedau sgrinio symudol i fynd â’r gwasanaeth i’r cymunedau anoddaf eu cyrraedd.

“Nid nawr yw’r amser i fod heb strategaeth canser. Mae gan Gymru ymhlith y canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop, a bydd hyn ond yn gwaethygu os na fydd camau’n cael eu cymryd.

“Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sydd ag unrhyw bryder, unrhyw symptom, os gwelwch yn dda, wneud apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.”

Plaid Cymru’n rhybuddio bod angen cynllun i fynd i’r afael â thriniaethau canser

“Nid dyma’r adeg i fod heb gynllun gweithredu ar gyfer canser” medd Rhun ap Iorwerth