Mae nifer y myfyrwyr sy’n cael eu derbyn i gyrsiau gradd i astudio iaith fodern wedi gostwng mwy na thraean dros bron i ddegawd, yn ôl ffigurau diweddara.

Daw’r gostyngiad yn y galw ar yr un pryd â gostyngiad yn nifer y bobl sy’n astudio ieithoedd ar gyfer Lefel A, yn ôl UCAS, gwasanaeth derbyn y prifysgolion.

Mae UCAS wedi rhybuddio y gallai’r cwymp yn nifer y myfyrwyr sydd wedi cael eu derbyn i astudio’r pwnc yn y brifysgol “waethygu’r” bwlch sgiliau iaith ar ôl Brexit.

Daw hyn wrth i ddata gan UCAS ddangos newid sylweddol tuag at raddau sy’n seiliedig ar dechnoleg, gyda mwy o fyfyrwyr yn cael eu derbyn i bynciau peirianneg a chyfrifiadureg dros y degawd diwethaf.

Mae derbyniadau i gyrsiau cyfrifiadureg wedi codi 47% mewn naw mlynedd – o 20,420 yn 2011 i 30,090 yn 2020, tra bod derbyniadau i gyrsiau peirianneg wedi cynyddu 21% dros yr un cyfnod.

Dyniaethau ddim mor boblogaidd

Ond mae pynciau’r dyniaethau – gan gynnwys astudiaethau Saesneg a hanes ac astudiaethau athronyddol – wedi gostwng mewn poblogrwydd ymhlith darpar fyfyrwyr prifysgol dros y degawd diwethaf.

Ac mae derbyniadau i gyrsiau iaith fodern wedi gostwng 36%, o 6,005 yn 2011 i 3,830 yn 2020, meddai’r adroddiad.

Mae’r data hefyd yn dangos bod y galw am leoedd nyrsio bron ar yr un lefel â degawd yn ôl erbyn hyn – er gwaethaf dileu bwrsariaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 2017.

Wrth ehangu lleoedd meddygol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae derbyniadau i gyrsiau meddygaeth ar y lefel uchaf erioed, mae’r dadansoddiad yn awgrymu.

Dywedodd Clare Marchant, prif weithredwr UCAS, ei bod yn braf gweld mwy o alw am bynciau Stem – a’u gweld yn cael eu “hysbrydoli gan waith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

Ond ychwanegodd: “Fe allai’r dirywiad mewn derbyniadau i ieithoedd waethygu’r bwlch sgiliau ieithoedd yn sgil Brexit, felly mae’n bwysig bod camau’n cael eu cymryd i hyrwyddo manteision ieithoedd ar draws y sector addysg.”

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn astudio ieithoedd”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: “Rydym am i’n haddysg uwch gefnogi’r economi a sgiliau sydd eu hangen ar ein gwlad ac mae’n wych gweld y poblogrwydd cynyddol mewn pynciau Stem fel peirianneg a chyfrifiadureg.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn astudio ieithoedd, a dyna pam y cyflwynodd y Llywodraeth ieithoedd i’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd am y tro cyntaf yn 2014.

“Rydym hefyd yn ariannu bron i £5 miliwn mewn rhaglen beilot sy’n anelu at gynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a rhoi cymorth i athrawon.”