Mae traean o Aelodau o Senedd yr Alban wedi derbyn bygythiadau yn erbyn eu bywydau ers iddynt gael eu hethol, yn ôl arolwg.
Roedd y ffigur yn codi i 46% ar gyfer aelodau benywaidd. Dywedodd 29% o aelodau benywaidd hefyd eu bod wedi cael bygythiadau o drais rhywiol.
Dywedodd tua 70% o wleidyddion a ymatebodd i arolwg cylchgrawn Holyrood eu bod wedi bod yn pryderu am eu diogelwch ers ymuno â Senedd yr Alban.
Cymerodd cyfanswm o 67 o Aelodau ran yn yr arolwg, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn.
Gwelliannau diogelwch i fwy nag 80% o swyddfeydd etholaethol a rhanbarthol
Dywedodd Senedd yr Alban ei bod wedi cynyddu diogelwch yn dilyn llofruddiaeth Yr Aelod Seneddol dros Batley a Spen, Jo Cox, yn 2016.
“Gwnaeth marwolaeth Jo Cox i ni i gyd edrych eto ar ddiogelwch Aelodau o’r Senedd ac, yn anffodus, y bygythiad y mae cynrychiolwyr etholedig yn ei wynebu bob dydd,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.
“Yn ystod y sesiwn hon o’r Senedd, mae’r SPCB (Corff Corfforaethol Senedd yr Alban) wedi ariannu gwelliannau diogelwch i fwy nag 80% o swyddfeydd etholaethol a rhanbarthol yn seiliedig ar gyngor Heddlu’r Alban.
“Rydym hefyd wedi sicrhau bod dyfeisiau gweithwyr unigol ar gael i aelodau a’u staff, yn ogystal mae arolygon diogelwch cartref ar gael i Aelodau o’r Senedd, sy’n cael eu cynnal gan Heddlu’r Alban.”
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae Swyddfa Ddiogelwch Senedd yr Alban a Heddlu’r Alban yn rhoi cyngor a chymorth i aelodau ar amrywiaeth o faterion diogelwch.
“Mae gwaith gan ein Swyddfa Ddiogelwch eisoes ar droed i sicrhau bod yr Aelodau o’r Senedd newydd fydd yn cael eu hethol (yn etholiad mis Mai) yn cael mynediad ar unwaith i’n gwasanaethau diogelwch personol.”