Mae Thomas Mair wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio Jo Cox.

Fe gymerodd hi ychydig dros awr a hanner i’r rheithgor yn yr Old Bailey ddod i benderfyniad ar ôl i Thomas Mair wrthod rhoi tystiolaeth.

Cafodd llofruddiaeth Aelod Seneddol Batley & Spen ei disgrifio fel gweithred “giaidd a llwfr”. Roedd hi ar ei ffordd i gynnal cymhorthfa yn Birstal, Gorllewin Swydd Efrog wythnos cyn refferendwm Ewrop ym mis Mehefin pan gafodd ei saethu dair gwaith a’i thrywanu 15 o weithiau.

Yn ystod yr achos llys, cafodd agwedd anhunanol Jo Cox ei ddisgrifio gan gydweithwraig yn ei hetholaeth, Sandra Major.

Dywedodd wrth y llys fod yr aelod seneddol wedi gweiddi ar bobol o’i chwmpas i adael y lle tra bod yr ymosodiad yn digwydd.

Clywodd y llys ei bod hi wedi ceisio amddiffyn ei hun gan roi ei dwylo dros ei phen, a bod Thomas Mair wedi cerdded ymaith cyn ail-lwytho’i ddryll a’i saethu a’i thrywanu hi eto.

Neo-Natsïaeth

Ar ôl i’r heddlu ei arestio, fe ddaethon nhw o hyd i lenyddiaeth neo-Natsïaidd yng nghartref Thomas Mair.

Wrth archwilio cyfrifiaduron, daeth i’r amlwg ei fod wedi bod yn edrych ar wefannau asgell dde eithafol, yn ogystal â thudalennau am Jo Cox a gwleidydd arall oedd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, cyn-Ysgrifennydd Cymru, William Hague.

Wrth i’r llys ofyn iddo gadarnhau ei enw, fe ddywedodd Thomas Mair: “Marwolaeth i fradwyr, rhyddid i Brydain.”

Fe wrthododd gyflwyno ple ac fe gafodd ple di-euog ei gyflwyno ar ei ran.

Cafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth, achosi niwed corfforol difrifol a bod ag arfau yn ei feddiant, ac fe’i cafwyd yn euog o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.