Mae Aelod Cynulliad Aberconwy wedi ymddiheuro am gerdded allan o gyfarfod ym Mae Caerdydd yn ei dagrau.

Roedd Janet Finch-Saunders yn rhan o gyfarfod yn holi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, pan ddechreuodd hi sôn am ddau achos penodol yn ei hetholaeth hi ei hun yr oedd wedi cael trafferthion mawr yn eu trafod.

“Hoffwn ddiolch am y gwaith gwnaethoch chi, roedd dau o’r adroddiadau hynny i wneud â dau o fy etholwyr i,” meddai Janet Finch-Saunders wrth Nick Bennett yn y Cynulliad heddiw.

“Wnes i fynd i sawl cyfarfod disgyblu, ac roeddwn i’n mynd i nunlle. Roeddem ni am gael cyfiawnder i’r teulu.

“Roedd yn rhwystredig iawn, y diffyg cyfathrebu. Mae lot o broblemau gyda’r Bwrdd Iechyd… diffyg cyfathrebu, pobol ddim yn siarad â’i gilydd… meddygon iau ddim yn siarad ag ymgynghorwyr, cofnodion nyrsio ddim yno ac mewn cyfarfodydd disgyblu roeddwn yn dysgu bod cofnodion heb gael eu cofnodi pan roedd teuluoedd yn codi pryderon pwysig iawn.”

Ymddiheuro

“Mae’n ddrwg gen i am fynd yn yspet ond roedden nhw’n ddau achos sensitif iawn,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Mae’n bryder i fi mai dim ond pan fydd pethau’n mynd o chwith yr ydych chi’n cael y lefel iawn o lywodraethu.

“Roedd galar y teulu o achos diffyg ymateb, ac roedden nhw’n teimlo bod neb yn poeni dim.”