Dan Snow gyda phortread o Lloyd George yn 10 Stryd Downing (Llun: BBC Cymru)
Mae’r hanesydd Dan Snow yn cyfaddef iddo deimlo’n “gymysglyd” ar ôl cyflwyno rhaglen ddogfen am ei hen-hen-daid, David Lloyd George.
Daeth y Rhyddfrydwr yn Brif Weinidog Prydain gan mlynedd yn ôl ar Ragfyr 7, 2016 – yr unig Gymro erioed i lenwi’r swydd – ac mae’r BBC wedi comisiynu rhaglen am ei fywyd a’i yrfa i nodi’r achlysur.
Bydd y rhaglen Dan Snow on Lloyd George – My Great-Great-Grandfather yn gweld yr hanesydd yn ymweld â Chricieth, cyn mynd i San Steffan ac i Balas Versailles lle bu Lloyd George yn cynrychioli Prydain mewn trafodaethau heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Dan Snow yn perthyn iddo ar ochr ei fam, ac mae’r rhaglen yn ymchwilio i “gyfrinach deuluol”, sef fod Lloyd George wedi cael sawl perthynas y tu allan i’w briodas â’i wraig Margaret.
“Roedd e’n ferchetwr adnabyddus, ac roedd ei berthynas hirdymor â’i ysgrifenyddes yn golygu bron fod ganddo ddwy wraig,” meddai Dan Snow.
“Dw i’n ddisgynnydd i un o ferched Lloyd George, felly mae’r ochr arall honno i’w fywyd wedi bod yn gyfrinach teuluol erioed, ac yn rhywbeth nad oedden ni’n siarad amdano.”
Hanes y teulu
Yn ystod y rhaglen, bydd Dan Snow yn ymweld â’r archifau seneddol i ddarllen darnau o ddyddiadur Lloyd George sy’n datgelu rhagor o wybodaeth am ei berthynas â Frances Stevenson.
“Ar un ystyr, fel aelod teuluol, mae’n eitha’ trist cael darllen am berthnasau cariadus eich hen-hen-daid a’i blentyn siawns a gafodd ei erthylu. Ac wedyn yr hunan-obsesiwn a’r uchelgais anhygoel sy’n ymddangos fel pe bai wedi boddi teimladau unrhyw un arall.
“Ond ar lefel arall, r’ych chi’n darganfod eich hun yn closio ato – fel cariad, fel bod dynol – ac r’ych chi bron yn cael eich hun yn dymuno’n dda iddo yn y berthynas honno, oherwydd mae’n amlwg ei fod e’n ei charu hi’n fawr iawn.
“Dw i’n teimlo’n gymysglyd braidd.”
Daeth Frances yn ail wraig iddo yn y pen draw yn dilyn marwolaeth Margaret.
Codi o’r gwaelod
“Dw i’n meddwl mai’r elfen fwyaf nodedig yn hanes Lloyd George,” meddai Dan Snow, “yw’r ffaith ei fod yn ddyn heb arian, heb gysylltiadau, heb gefndir yn y fyddin a heb gael addysg yn Rhydychen na Chaergrawnt a gododd i fod yn un o’r dynion mwyaf pwerus yn y byd, gan ddod yn Brif Weinidog Prydain ar adeg pan oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn ar draws y byd.
“I fi, mae’r ffaith honno’n un o’r agweddau mwyaf nodedig ar hanes yr ugeinfed ganrif.”