Mae disgwyl i gerdd sydd wedi’i sgwennu yn llawysgrifen Anne Frank werthu am filoedd o bunnau mewn ocsiwn yn yr Iseldiroedd.
Mae’r gerdd wyth llinell, sy’n cynnwys rhai brawddegau o lyfr barddoniaeth o’r Iseldiroedd, wedi cael ei lofnodi ar 28 Mawrth 1942 – ychydig cyn i Anne Frank a’i theulu fynd i guddio oddi wrth y Natsïaid.
Ynghyd a’r gerdd mae llythyr gan ffrind ysgol Anne, Jacqueline van Maarsen, i brofi diffuantrwydd y ddogfen.
Ond does dim amheuaeth am y diffuantrwydd, yn ôl Maatje Mostart o Gymdeithas Anne Frank.
Mae dyddiadur Anne Frank am ei bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi ennill cyhoeddusrwydd rhyngwladol ac mae hi’n cael ei gweld fel symbol i’r dioddefaint yn ystod yr Holocost.