Kanye West (Llun: PA)
Mae adroddiadau bod y rapiwr byd-enwog Kanye West yn cael ei drin am “flinder mewn ysbyty yn Los Angeles” wedi iddo ohirio’i daith gerddorol yr wythnos hon.

Mae’n debyg ei fod yn cael ei drin am “ddiffyg cwsg,” a hynny wedi i’r heddlu gael eu galw i ddigwyddiad nos Lun.

Yn ôl Gwasanaeth Tân Los Angeles, “am 1.20yh, fe wnaeth y Gwasanaeth Tân ymateb i gais am gymorth meddygol amhenodol ym mloc 900 o Rodfa Gogledd Laurel.”

‘Rhefru’n gyhoeddus’

Yn ddiweddar mae’r rapiwr wedi bod yn rhefru’n gyhoeddus am nifer o ffigyrau amlwg gan gynnwys Beyonce, Jay Z, Hillary Clinton a Mark Zuckerberg sylfaenydd Facebook.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd mewn cyngerdd y byddai wedi pleidleisio am Donald Trump yn etholiad arlywyddol America pe bai wedi bwrw pleidlais, gan ganmol ei “ddull o gyfathrebu” fel un “hynod o ddyfodolaidd.”

Mae llefarydd ar ei ran wedi cadarnhau fod pob un o ddyddiadau nesaf ei daith wedi’u gohirio ac y bydd pobol yn cael eu had-dalu am eu tocynnau.