Ers y mis diwethaf, Amsterdam, nid Llundain, yw’r ganolfan fasnachu cyfanddaliadau fwyaf yn Ewrop.
Daw hyn wrth i newidiadau sy’n gysylltiedig â Brexit ddod i rym.
Masnachwyd gwerth 9.2 biliwn ewro ar gyfartaledd (£8.1 biliwn) o gyfranddaliadau ar Amsterdam Euronext, ynghyd ag adrannau’r Iseldiroedd o CBOE Europe a chyfnewidfa Turquoise ym mis Ionawr, yn ôl data gan CBOE Europe a adroddwyd gan y Financial Times.
Yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit, ni all banciau’r Unol Daleithiau sydd am brynu stociau Ewropeaidd fasnachu drwy Lundain mwyach.
Roedd platfform masnachu Turquoise, sy’n eiddo i Grŵp Cyfnewid Stoc Llundain, eisoes wedi symud i’r Iseldiroedd – gyda thua 7,000 o swyddi yn y sector ariannol sydd wedi symud o’r DU i’r UE ers y refferendwm.
Tensiynau
Mae’r UE yn dweud na all gydnabod bod gan gyfnewidfeydd y DU yr un lefelau o oruchwylio â’i chymheiriaid yn yr Iseldiroedd, Ffrainc a’r Almaen.
Heb daro bargen “gyfwerth”, symudodd tua 6.5 biliwn ewro (£5.7 biliwn) o gytundebau i’r UE dros nos – gan gynnwys y ffioedd sy’n dod gyda nhw.
Mae tensiynau’n parhau’n uchel rhwng Llundain a Brwsel wrth i reoleiddwyr bancio barhau i weithio ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth ynghylch rheolau yn y dyfodol.
Dywedodd arweinydd Llafur, Keir Starmer, bod yn rhaid i’r Canghellor, Rishi Sunak, wneud mwy i amddiffyn y Dinas Llundain yn dilyn Brexit.
‘Wir angen i ni ddiogelu ein gwasanaethau ariannol’
Wrth siarad â gohebwyr ym maes awyr Heathrow, dywedodd: “Mae ein marchnadoedd ariannol yn hynod bwysig. Roeddwn i’n poeni’n fawr, pan welais y cytundeb Brexit, nad oedd bron unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau ariannol.
“Felly beth rydw i eisiau yw gweld cynnydd yma. Dywedodd y Canghellor y byddai’n gofalu am Ddinas Llundain o ran gwasanaethau ariannol; mae angen iddo gadw’r addewid hwnnw oherwydd mae wir angen i ni ddiogelu ein gwasanaethau ariannol.”
Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wrth sesiwn friffio yn San Steffan: “Mae cyfnewidfeydd y DU yn parhau i fod ymhlith y mwyaf a dyfnaf yn y byd ac rydym yn parhau, fel yr ydym wedi gwneud, i gredu mewn marchnadoedd agored, byd-eang, a gallu cwmnïau i ddewis ble i fasnachu.
“Er gwaetha’r ffaith ein bod wedi cyflenwi’r holl waith papur angenrheidiol a’n bod yn un o ganolfannau ariannol mwyaf blaenllaw’r byd gyda system reoleiddio gref, nid yw’r UE wedi rhoi cyfatebiaeth lawn i ni o hyd.
“Mae hyn wedi golygu bod nifer o gyfranddaliadau’r UE a fasnachwyd yn flaenorol ar leoliadau’r DU wedi symud i leoliadau’r UE ar gyngor y rheoleiddiwr Ewropeaidd.
“Ond ein safbwynt ni yw nad yw darnio masnachu cyfranddaliadau ar draws canolfannau ariannol o fudd i unrhyw un, felly rydym yn parhau i fod yn agored i drafodaethau gyda’r UE am hyn.”
‘Nid yw byd lle mae’r UE yn pennu pa reolau sydd gennym yn y DU yn mynd i weithio’
Rhybuddiodd llywodraethwr Banc Lloegr, Andrew Bailey, nos Fercher na fyddai’r DU yn cael ei gorfodi i ddilyn rheolau’r UE a bod angen cytundebau synhwyrol ynghylch beth yw “cyfatebiaeth”.
Wrth roi araith flynyddol y llywodraethwr yn Mansion House, dywedodd: “Mae’r UE wedi dadlau bod yn rhaid iddi ddeall yn well sut mae’r DU yn bwriadu diwygio neu newid y rheolau wrth symud ymlaen.
“Mae hon yn safon nad yw’r UE yn dal unrhyw wlad arall iddi ac na fyddai, rwy’n amau, yn cytuno i gael ei dal iddi hi ei hun.”
Ychwanegodd: “Rwy’n ofni nad yw byd lle mae’r UE yn pennu ac yn penderfynu pa reolau a safonau sydd gennym yn y DU yn mynd i weithio.”
Gwladwriaeth dreth isel?
Rhybuddiodd Mr Bailey hefyd y dylai’r DU osgoi dod yn wlad dreth isel a rheoliadau ysgafn – a dywedodd y byddai’n gamgymeriad i’r UE dorri Llundain oddi ar ei systemau ariannol.
Dywedodd: “Alla i ddim rhagweld beth fydd yn digwydd yn union gan nad yw o fewn ein rheolaeth, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni arddel y ddadl ei bod yn bwysig cael safonau byd-eang, marchnadoedd byd-eang, a bod yn agored. Ac os ydym i gyd yn ymrwymo i hynny, nid oes angen mynd i’r cyfeiriad hwnnw [bod yn wlad dreth isel a rheoliadau ysgafn].”
Disgwylir i femorandwm cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi rhwng y DU a’r UE ynghylch gwasanaethau ariannol ym mis Mawrth.