Mae rheilffyrdd Cymru yn debygol o aros yn nwylo’r sector cyhoeddus am “o leiaf pum mlynedd”, yn ôl Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru.
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n camu i mewn i reoli’r rheilffyrdd yng Nghymru, gan gymryd yr awenau oddi wrth Keolis Amey, y gweithredwr preifat.
Daeth y cam yn dilyn cwymp mawr mewn niferoedd teithwyr o achos yr argyfwng – ac yn sgil pryderon y byddai gwasanaethau’n crebachu heb ymyrraeth gyhoeddus.
Yn ystod sesiwn y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw, mi holwyd James Price o Drafnidiaeth Cymru am ddyfodol y gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru.
Roedd yn cydnabod bod yna rôl i’r sectorau cyhoeddus a phreifat, ond dywedodd mai’r sector gyhoeddus fydd â’r cyfrifoldeb am flynyddoedd i ddod.
“Mae’r sector breifat yn medru bod, mewn rhai sefyllfaoedd, yn dda iawn wrth gymryd risgiau,” meddai.
“Ond yng nghanol y pandemig covid dw i ddim yn credu bod [unrhyw gwmni yn mynd i] gymryd risgiau â phrisiau tocynnau am gryn amser.
“A dylem ni beidio gwadu’r sefyllfa. Does dim dadl o blaid trosglwyddo risgiau refeniw i’r sector breifat yn y maes gweithredu rheilffyrdd.
“Dyna pam dw i’n credu bod ein penderfyniad i osod rheolaeth y rheilffyrdd dan y sector gyhoeddus [in house oedd ei eiriad] yn mynd i bara am o leiaf pum mlynedd.”
Is-gwmni yw Trafnidiaeth i Gymru sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r gororau.
Dyfodol ansicr
Mae dyfodol rheilffyrdd Cymru yn hynod ansicr yng nghanol yr argyfwng Covid, a bu Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, yn trafod hynny gerbron un o bwyllgorau’r Senedd ddiwedd llynedd.
Yn ystod y sesiwn bu’n pendroni ynghylch faint o awydd fydd gan y cyhoedd i gadw gwasanaethau yn fyw ac yn iach.
“Mi wnaethom ni benderfyniad … ar sail ein gwerthoedd ac uchelgeisiau, i ddod â [rheilffyrdd Cymru] dan reolaeth gyhoeddus trwy Drafnidiaeth Cymru,” meddai Lee Water bryd hynny.
“Mae’n mynd i’r afael â’r mater o fforddiadwyedd, ond y cwestiwn go iawn i ni gyd dw i’n credu yw: ‘Faint, ac am ba hyd, y bydd y pandemig yma yn cael effaith ar niferoedd teithwyr?’
“Yn y cyfamser, faint o awydd sydd gan y sector gyhoeddus i ymyrryd ac ariannu parhad gwasanaethau i wneud yn siŵr bod yna fudd cyhoeddus?
“Mae hynny’n gwestiwn byw, ac mae’n anodd dod i’r farn gywir.”