Mae’r cyn-Ddirprwy Gomisiynydd, Ann Griffith, wedi cael ei chadarnhau fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Daw hyn ar ôl i Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, gyhoeddi na fyddai’n sefyll eto.

Dywedodd Ann Griffith ei fod yn “anrhydedd” cael ei dewis a’i disgrifio ei hun fel yr “ymgeisydd parhad”.

Wedi’i geni yn Wrecsam, magwyd Ann Griffith yn Abermaw, Gwynedd, ac mae wedi byw y rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn ym Môn – gan wasanaethu fel cynghorydd sir ward Bro Aberffraw tan 2017.

Fe’i penodwyd i rôl ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn 2016 i gynorthwyo Arfon Jones yn fuan ar ôl ei ethol ac mae wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol seiciatrig.

Bu hefyd yn gwasanaethu rôl penodiadau cyhoeddus o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gan gadarnhau ei hymgeisyddiaeth ar gyfer rôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd gogledd Cymru, dywedodd Ann Griffith y byddai’n rhoi dioddefwyr wrth galon y system cyfiawnder troseddol, a blaenoriaethu “llesiant swyddogion a staff yr heddlu”.

Bydd etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar Fai 6 2021.

“Anrhydedd”

Dywedodd Ann Griffith: “Mae’n anrhydedd i mi gael fy newis gan Blaid Cymru ar gyfer yr etholiad i ddewis Comisiynydd Heddlu a Throseddu nesaf gogledd Cymru.

“Ar ôl gweithio y tu ôl i’r llenni fel dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu rwy’n deall gofynion y rôl yn well na neb a byddaf yn gallu dechrau ar unwaith – sy’n hanfodol yn ystod y pandemig hwn.

“Fel yr ymgeisydd parhad, mae gen i brofiad helaeth o ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau ar draws y rhanbarth a deall y materion a’r pwysau sy’n bodoli.

“Byddaf yn rhoi dioddefwyr wrth wraidd y system cyfiawnder troseddol.

“Ond er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i swyddogion yr heddlu a staff dderbyn gofal da eu hunain – a bydd eu diogelwch a’u lles yn flaenoriaeth imi er mwyn iddynt ofalu am y rhai sy’n agored i niwed a’u hamddiffyn.

“Byddaf yn gwasanaethu pobol gogledd Cymru gyda chywirdeb, tegwch a chyfiawnder a byddaf yn gwarantu heddlu sy’n effeithlon ac yn effeithiol.”

Yr ymgeisydd arall sydd wedi’i gadarnhau ar hyn o bryd yw Andy Dunbobbin ar ran y Blaid Lafur.

 

Arfon Jones

Arfon Jones ddim am sefyll eto

Bydd yn rhoi’r gorau i’w rôl yn Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd cyn yr etholiad nesaf