Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn yr etholiad nesaf.

Cafodd ei ethol ar ran Plaid Cymru yn 2016 ar ôl gyrfa gyda’r heddlu, a hynny â mwyafrif sylweddol o 25,000.

Yn hanu o Harlech, roedd yn gynghorydd sir yn Wrecsam cyn camu o’r neilltu fis Mai 2017.

Fe wasanaethodd yr heddlu fel plismon rhwng 1978 a 2008, gan ymddeol o’i rôl yn Arolygydd.

Roedd disgwyl i’r etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu gael ei gynnal fis Mai y llynedd, ond fe gafodd ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

Llwyddiannau

Fe fu mynd i’r afael â thrais yn y cartref yn un o brif flaenoriaethau Arfon Jones pan gafodd ei ethol.

O dan ei arweiniad, Heddlu’r Gogledd oedd yr heddlu cyntaf i sicrhau bod plismyn yn gwisgo camerâu cyrff.

Fe fu hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod arian ac adnoddau ar gael i herio troseddau ar-lein, gan gynnwys ecsbloetio rhywiol a thwyll, ac am benodi’r swyddog cyntaf yng ngwledydd Prydain i helpu’r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i gaethwasiaeth.

Fe fu hefyd yn ymgyrchu i gyfreithlonni rhai cyffuriau, ac mae’n cyfri newid barn y cyhoedd ymhlith ei brif lwyddiannau, gan sefydlu sawl cynllun i helpu pobol i droi oddi wrth gyffuriau.

Mae hefyd yn gobeithio y bydd ei gynllun lle mae plismyn yn Sir y Fflint yn cario chwistrell trwyn i drin gor-ddos o gyffuriau yn dod yn weithredol ledled Cymru yn y pen draw.

Egluro’i benderfyniad

“Y prif reswm rwyf wedi penderfynu peidio â cheisio ailethol yw y byddaf yn gweithio am fwy na 46 mlynedd erbyn yr etholiad nesaf,” meddai Arfon Jones.

“O ganlyniad i’r pandemig estynnwyd y tymor yn y swydd am flwyddyn. Dechreuais feddwl am hyn fis Mai diwethaf ond ni siaradais ag unrhyw un arall amdano tan dri mis yn ôl.

“Rwyf wedi cyflawni llawer yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae’n mynd i fod yn anoddach gwneud gwahaniaeth y tro nesaf oherwydd y pandemig, Brexit a’r ffaith bod y tymor swydd wedi’i gwtogi i dair blynedd.”

Teyrngedau

Mae Adam Price ac Alun Ffred Jones wedi talu teyrnged iddo ar ran Plaid Cymru.

“Rydym yn ddyledus i Arfon Jones am ei gyfraniad aruthrol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd gogledd Cymru,” meddai Adam Price.

“O lansio Checkpoint Cymru – prosiect i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu; comisiynu gwasanaethau gwerth dros £2 filiwn i gefnogi dioddefwyr troseddau; arwain y gad wrth fynd i’r afael â thrais domestig ac i gadw ein cymunedau’n ddiogel yn ystod pandemig Coronavirus yn fwy diweddar.

“Mae cyflawniadau sylweddol Arfon yn y swydd yn dyst i’w ymrwymiad i’r etholwyr y mae’n eu gwasanaethu.

“Ar ran Plaid Cymru hoffwn ddiolch i Arfon Jones am ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru ac anfon ein dymuniadau cynhesaf ato ar gyfer y dyfodol.”

Yn ôl Alun Ffred Jones, cadeirydd Plaid Cymru, mae Arfon Jones “wedi helpu i wneud gogledd Cymru yn lle mwy diogel”.

“Yn was cyhoeddus ym mhob ystyr y gair, bydd yn cael ei gofio am gynrychioli pobl gogledd Cymru mewn modd penderfynol ac am ymladd i sicrhau bod lleisiau dioddefwyr trosedd yn cael eu clywed o fewn y system gyfiawnder,” meddai.

“Ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.”