Mae Cabinet yr Almaen wedi cymeradwyo deddfwriaeth sy’n gorfodi cwmnïau â mwy na 2,000 o weithwyr i benodi menywod i’w byrddau rheoli.

Mae’n berthnasol i gwmnïau sydd wedi’u cofrestru â’r gyfnewidfa stoc ac sydd â byrddau rheoli o fwy na thri pherson.

Bydd y ddeddfwriaeth, felly, yn berthnasol i ryw 70 o gwmnïau, a rhyw 30 ohonyn nhw heb yr un fenyw ar eu bwrdd rheoli ar hyn o bryd.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ychwanegu at reolau a gafodd eu cyflwyno yn 2015 sy’n gofyn fod gan gwmnïau mawr 30% o’u staff rheoli yn fenywod.

Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Christine Lambrecht, gall deddfwriaeth o’r fath “gael effaith ar ddiwylliant y cwmni cyfan”.