Mae Guto Harri yn dweud y byddai’n “rhyfeddu” pe bai Boris Johnson yn “rhoi’r gorau iddi yn awr”.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod prif weinidog Prydain yn anhapus â’i gyflog, ac yn ystyried ildio’r awenau yn y gwanwyn.
Ond wrth siarad ar raglen radio Post Cyntaf fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 6), mae Guto Harri, a fu’n ymgynghorydd cyfathrebu i’r gwleidydd, wedi wfftio hynny’n llwyr.
“Buasen i’n rhyfeddu, pe bai Boris Johnson yn rhoi’r gorau iddi yn awr,” meddai.
“Mae wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd, dw i’n credu, yn dychmygu beth fyddai fel i fod yn Rhif 10, ac mae’n ymwybodol iawn bod yna waith aruthrol o galed i’w wneud.
“Mae wedi ennill ei le eisoes, wrth gwrs, yn y llyfrau hanes. Mae’r rhan fwyaf o bobol yn cael cnocio oddi ar y trywydd gan bethau lot llai na phandemig byd eang.”
Tynnodd sylw hefyd at Brexit, gan ddadlau y dylid edmygu’r prif weinidog am gyflawni’r ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.
Roedd Guto Harri yn Gyfarwyddwr Materion Allanol i Boris Johnson rhwng 2008 a 2012 (tra roedd y gwleidydd yn faer ar Lundain).
Anfodlon a chenfigennus?
Mae adroddiad (o fis Hydref) gan The Mirror yn dyfynnu aelodau seneddol Torïaidd sydd yn honni bod Boris Johnson yn anhapus, ac yn ystyried gadael ar ben draw Brexit.
Mae’r ffynonellau anhysbys yn dweud ei fod yn cwyno am ei gyflog o £150,402, ac yn dadlau nad yw hynny’n ddigon i dalu ei gostau byw.
Cyn iddo ddod yn brif weinidog, roedd yn cael ei dalu £23,000 y mis i sgwennu colofn papur newydd, ac mi dderbyniodd £160,000 mewn mis ar ôl traethu dwy araith.
Mae’r ffynonellau hefyd yn dweud nad yw’n mwynhau ei swydd, er ei fod wedi awchu i fod yn brif weinidog cyn esgyn i’r rôl.
Mae’n debyg bod Theresa May, rhagflaenydd Boris Johnson, wedi ennill £1m y llynedd o annerch mewn digwyddiadau. Yn ôl yr adroddiad, mae’r prif weinidog yn genfigennus o hynny.
Y “prawf mawr nesaf”
Dywedodd Guto Harri mai’r “prawf mawr nesaf” i Lywodraeth San Steffan yw’r rhaglen frechu, ac ategodd y byddai methiant yn hynny o beth yn broblem i Boris Johnson.
“Os yw’r Llywodraeth yn llwyddo i frechu yn effeithiol … yna erbyn yr haf dw i’n credu y bydd y Llywodraeth yn Llundain (ac i Mark Drakeford [Prif Weinidog Cymru] os yw’n gwneud jobyn teidi yng Nghymru hefyd) mewn lle eitha’ da,” meddai.
“Os dydyn nhw ddim, yna mi allai Mark Drakeford a chriw Llafur yng Nghaerdydd gael eu cosbi eleni mewn etholiadau yng Nghymru … a bydd Boris Johnson yn [cael ei gosbi] a’i bleidleisio allan.”