Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dal i geisio trefnu ymweliad â Tsieina i drafod tarddiad posib y coronafeirws.
Fe ddaw ar ôl i’r Sefydliad feirniadu Beijing am beidio â rhoi sêl bendith ar gyfer yr ymweliad hyd yn hyn, ond mae’r llywodraeth yn dweud eu bod nhw “bob amser wedi bod yn agored a chyfrifol”.
Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw staff y Sefydliad wedi derbyn fisa ar gyfer yr ymweliad hyd yn hyn.
Mae’r llywodraeth yn dweud bod angen cadarnahau amserlen yr ymweliad o hyd, ond fod “problem y tarddiad yn un gymhleth iawn” a bod arbenigwyr yn dal i geisio mynd i’r afael â’r achosion diweddaraf yn y wlad.
Ymweliad
Roedd disgwyl i arbenigwyr o Sefydliad Iechyd y Byd deithio i Wuhan, y lle cyntaf i gofnodi achosion o’r feirws flwyddyn yn ôl, fis yma.
Roedd yr arbenigwyr yn paratoi i deithio ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 5), ond doedd eu dogfennau teithio ddim yn barod gan nad oedd manylion y daith wedi cael eu cadarnhau’n derfynol.
Cafodd nifer o bobol eu hatal rhag teithio, ac roedd nifer eisoes wedi dechrau’r daith.
Mae ymchwiliad gan Associated Press yn awgrymu bod Llywodraeth Tsieina yn ceisio darbwyllo mai yn rhywle arall, nid yn Wuhan, roedd tarddiad y feirws.