Mae cadwyn becws Greggs yn dweud y byddan nhw’n profi colled flynyddol ac na fydd elw’n adfer tan o leiaf 2022 wrth i’r coronafeirws effeithio ar werthiant y cwmni.
Dywed Greggs fod cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer y flwyddyn wedi gostwng bron i draean – 31% – i £811m.
Ac maen nhw wedi paratoi ar gyfer colledion cyn treth blynyddol o hyd at £15m, yn erbyn elw o £108.3m y flwyddyn flaenorol, er iddo ddweud bod yr ergyd wedi’i leihau diolch i gefnogaeth y Llywodraeth.
“Mae’r ansicrwydd sylweddol ynghylch hyd cyfyngiadau cymdeithasol, ynghyd ag effaith lefelau diweithdra uwch, yn ei gwneud hi’n anodd rhagweld perfformiad,” meddai llefarydd ar ran Greggs.
“Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl y bydd elw yn dychwelyd i lefelau cyn Covid tan 2022 ar y cynharaf.”
Dywed y cwmni fod 600 o’u siopau bellach yn darparu gwasanaethau dosbarthu ar Just Eat ac mae disgwyl i hyn gynyddu i tua 800 o siopau yn 2021.
Ac mae’r grŵp hefyd wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu agor tua 100 o siopau newydd yn ystod y flwyddyn hon.
Ymateb
“Gyda chwsmeriaid yn treulio mwy o amser gartref rydym wedi llwyddo i ddatblygu ein partneriaeth gyda Just Eat i gynnig gwasanaethau dosbarthu ac rydym hefyd wedi gweld gwerthiant cryf drwy ein partneriaeth hir sefydlog â Iceland, gan gynnig ein cynnyrch ar gyfer pobi cartref,” meddai’r prif weithredwr Roger Whiteside.
“Rydym wedi ailddechrau agor siopau newydd lle gwelwn gyfleoedd da, gyda’r safleoedd y mae ceir yn gallu mynychu’n perfformio’n arbennig o dda.
“Yng ngoleuni cyhoeddiadau diweddar y Llywodraeth, mae ansicrwydd sylweddol yn parhau yn y tymor byr.”