Mae 53 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn honiadau eu bod nhw wedi torri cyfreithiau diogelwch dadleuol y wlad drwy gymryd rhan mewn etholiadau answyddogol.

Mae deddfwyr ymhlith y rhai sydd wedi’u harestio, a hynny am eu rhan yn yr etholiadau haf diwethaf i benderfynu dyfodol democrataidd y wlad.

Bwriad y cyfreithiau yw tawelu unrhyw brotestiadau neu wrthwynebiad i rym y llywodraeth.

Yn ôl John Lee, un o weinidogion Hong Kong, cafodd y 53 eu harestio am ymyrryd yn nyletswyddau’r llywodraeth a cheisio eu parlysu drwy ennill mwyafrif o seddi i orfodi’r prif weithredwr Carrie Lam i gamu o’r neilltu a dod â’r llywodraeth i ben.

Cafodd nifer o’r rhai a gafodd eu harestio eu hatal rhag ffilmio’r digwyddiad a’u bygwth â chael eu harestio ymhellach.

Cafodd etholiad swyddogol y wlad ei ohirio yn sgil y coronafeirws, ac mae ymddiswyddiadau lu y deddfwyr o blaid democratiaeth wedi gadael mwyafrif sy’n ffyddlon i Tsieina.

Er gwaetha’r ffaith fod y 53 wedi cael eu harestio, mae’r awdurdodau’n dweud na fyddan nhw’n arestio unrhyw un oedd wedi pleidleisio yn yr etholiad answyddogol, ar ôl i fwy na 600,000 fwrw eu pleidlais.

Ymhlith y rhai a gafodd eu harestio roedd yr holl ymgeiswyr o blaid democratiaeth.