Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i farwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 3.45 fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 6) i’r gorllewin rhwng cyffordd 30 a chyffordd 32, pan darodd lori trwm Renault gerddwr.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu’n cael eu cefnogi gan swyddog cyswllt.

Mae’r heddlu wedi diolch i aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd, ac am eu hamynedd wrth gau’r ffordd.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 101.