Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn datblygu brechlyn clyfar (‘smart patch’) sy’n gallu mesur ymateb imiwnedd y corff.

Drwy ddefnyddio nodwyddau 1mm o hyd, mi fydd y ddyfais yn rhoi dos o’r brechlyn ac yn monitro pa mor effeithiol yw e.

Dyma’r cyntaf o’i fath yn y byd a bydd fersiwn yn cael ei datblygu erbyn diwedd mis Mawrth, gyda’r gobaith o’i gyflwyno ar gyfer profion clinigol.

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ac arian o Ewrop.

“Y rheswm rydyn ni’n eu galw’n ‘smart-patch’ yw oherwydd bod ganddyn nhw’r gallu i edrych ar ymateb y corff i’r brechlyn,” meddai Dr Sanjiv Sharma, Uwch Ddarlithydd Peirianneg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe.

“Pan fyddwn yn gweinyddu brechlynnau mae’r corff yn ymateb ac yn dechrau cynhyrchu’r hyn rydym yn ei alw’n imiwnoglobwlinau.

“Mae’r imiwnoglobwlinau hyn yn ffordd o fesur am effeithiolrwydd brechu.

“Mae’r costau i ddatblygu’r math yma o ddyfais yn isel.

“Tu hwnt i’r pandemig, gellid ehangu’r gwaith i fod yn berthnasol i glefydau heintus eraill gan fod natur y platfform yn caniatáu i ni addasu’n gyflym i glefydau heintus gwahanol.”

Gobeithio y bydd y brechlyn “o fudd i wledydd tlotach”

“Yn enwedig i bobol sy’n ofni nodwyddau a phigiadau, dyw’r ddyfais ddim yn treiddio yn ddwfn i’r croen o gwbl,” meddai Olivia Howells, myfyriwr PhD sy’n gweithio ar y prosiect.

“Oherwydd bod y dechnoleg yma’n gallu cael ei greu’n weddol rhad hefyd, rydyn ni’n gobeithio y byddai o fudd i wledydd sy’n dlotach o ran eu hadnoddau wrth ymateb i bandemig fel hyn yn y dyfodol.”