Mae neges fideo gan drigolion Trefaldwyn wedi dod yn boblogaidd yn Hwngari, gan gryfhau’r cysylltiadau â Chymru unwaith eto.

Fe fu’r dref yn y canolbarth yn dathlu ei chysylltiadau â’r wlad ers tro, a’r rheiny’n deillio o’r gerdd ‘A walesi bárdok’ gan János Arany 160 o flynyddoedd yn ôl sy’n cael ei dysgu i holl blant Hwngari yn yr ysgol.

Cyngor Tref Trefaldwyn sydd wedi creu’r fideo sydd eisoes wedi cael ei gwylio dros 50,000 o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol mewn ychydig wythnosau, ac mae wedi denu sylw’r wasg a’r cyfryngau cenedlaethol.

Mae’r fideo’n ymateb i fideo arall gan fenter Magyar Cymru, sy’n hybu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Hwngari, lle daeth 30 o bobol o Hwngari ynghyd i ddanfon “llythyr serch” i Gymru yn galw am godi pontydd rhwng y ddwy wlad.

Ymateb Trefaldwyn

Yn ôl Jill Kibble, sy’n aelod o Gyngor Tref Trefaldwyn, maen nhw wedi’u synnu gan yr ymateb i’r ffilm.

“Mae gan Drefaldwyn gysylltiad cyfareddol â Hwngari, ac mae’n hyfryd gwybod fod cenedlaethau o Hwngariaid wedi dysgu enw ein tref fach yn yr ysgol,” meddai.

“Pan gawson ni wybod am neges fideo hyfryd Magyar Cymru i Gymru dros yr haf, roedden ni’n gwybod fod rhaid i ni ymateb.

“Felly er gwaetha’r amserau heriol, fe ddechreuodd ein prosiect fideo er mwyn rhan ein tref fach hardd, Trefaldwyn, gyda phobol Hwngari.”

Ymateb Magyar Cymru

Yn ôl Balint Brunner, sylfaenydd Magyar Cymru, mae Trefaldwyn yn enwocach yn Hwngari “na Chaerdydd neu unrhyw ddinas arall”.

“Fodd bynnag, cawsom ein synnu’n fawr a’n cyfareddu i ddysgu cymaint mae pobol leol yn gwerthfawrogi eu cysylltiadau â Hwngari sy’n bell i ffwrdd,” meddai.

“Mae fideo Trefaldwyn wedi dod yn boblogaidd yn Hwngari a thu hwnt, wrth i’r cyfryngau prif ffrwd adrodd ar y weithred hyfryd.

“Rydym hefyd wedi derbyn ymholiadau gan wyliau chwedloniaeth amrywiol a’r rhai sy’n frwd dros ddiwylliant Cymru oedd eisiau ein helpu ni i adeiladu pontydd pellach rhwng y dref a Hwngari.”

Mae cynlluniau ar y gweill i ddod â diwylliant Hwngari i Drefaldwyn ar ôl y coronafeirws, gan gynnwys Diwrnod Hwngari fydd yn cynnwys cerddorion ifanc o ysgol ffidil Hwngaraidd yn Sir Gaerfyrddin, a dadorchuddio plac er cof am János Arany, a dderbyniodd ryddid tref Trefaldwyn er cof amdano yn 2017.

Cafodd y fideo o Drefaldwyn ei chroesawu’n gynnes ym mhentref Kunágota yn ne-ddwyrain Hwngari, pentref Cymreiciaf Hwngari sy’n cynnal cyngherddau i ddathlu’r cysylltiadau.

Hanes ‘A walesi bárdok’ gan János Arany

Baled yw’r gerdd ‘A walesi bárdok’ (Beirdd Cymru), sy’n adrodd hanes 500 o feirdd a gafodd eu lladd gan Edward I am beidio â chanu ei glodydd mewn cinio mawreddog yng nghastell Trefaldwyn.

Lluniodd e’r gerdd ar ôl gwrthod canu mawl i Ymerawdwr Awstria, Franz Joseph, ar ôl chwyldro aflwyddiannus yn 1848.

Bwriad llunio’r gerdd oedd beirniadu rheolaeth Habsburg dros Hwngari, a gafodd ei chelu o fewn stori am ymweliad Edward â Threfaldwyn.

Mae’n rhaid i holl blant Hwngari ddysgu’r gerdd ar eu cof, ac mae copi ohoni i’w gweld yn y Llyfrgell Geendlaethol yn Aberystwyth.

Yn 2011, cyfansoddodd Karl Jenkins gantata yn ymateb i gyfeithiad o’r gerdd.