Mae’r Democratiaid wedi ennill un o ddwy sedd y Senedd yn nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau.

Raphael Warnock yw’r seneddwr croenddu cyntaf yn hanes y dalaith, ac mae ei fuddugoliaeth yn golygu bod ennill mwyafrif bellach o fewn cyrraedd i’w blaid.

Mae Warnock, sy’n offeiriad yn eglwys Martin Luther King Jr ers 15 mlynedd, wedi curo’r Gweriniaethwr Kelly Loeffler a hynny er gwaetha’r ffaith fod yr Arlywydd Donald Trump wedi bod yn y dalaith yn ymgyrchu dros y blaid.

Mae’r ras am ail sedd y dalaith yn poethi hefyd, a honno rhwng y Gweriniaethwr David Perdue a’r Democrat Jon Ossoff, y ffefryn i ennill.

Ond mae hi’n rhy gynnar i ddarogan yr ail ganlyniad eto, gyda’r cyfri ar y gweill.

Pe bai’r Democratiaid yn ennill yr ail sedd, bydd gan y Democratiaid fwyafrif yn y Gyngres, a hynny’n cryfhau safle Joe Biden wrth iddo ddod yn Arlywydd ar Ionawr 20.