Mae Plaid Cymru yn galw am gynllun cynhwysol i adfer addysg ar frys, fel bod disgyblion yn gallu dal i fyny efo’r addysg maen nhw wedi’i cholli dros y misoedd diwethaf yn sgil Covid-19.

Dywed Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, fod rhaid gosod cynlluniau er mwyn cefnogi dysgu o bell a dysgu cyfunol, a chynlluniau i wneud yn siŵr bod ysgolion yn cysylltu digon â disgyblion – gan ddweud mai dyma’r “allwedd i’r adferiad”.

Ychwanega y dylid annog athrawon a chynorthwywyr sydd wedi ymddeol i gofrestru, a gyda nifer o athrawon llanw yn cael cynnig cytundebau ffurfiol a chyn-athrawon yn gweithio mewn swyddi eraill neu o fewn awdurdodau lleol, y dylid cynnig secondiaid i gyrff a chonsortiau addysg.

“Miloedd o blant Cymru yn cael eu gadael ar ôl”

“Bydd rhagor o darfu ar addysg yn golygu fod miloedd o blant a phobol ifanc Cymru yn cael eu gadael ar ôl, a’u lleisiant yn cael ei danseilio – mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Adfer Addysg a Llesiant er mwyn esbonio, mewn manylder, sut mae helpu disgyblion a myfyrwyr i ddal i fyny efo’r addysg maen nhw wedi’i golli,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae angen i’r cynllun gynnwys camau brys i wella dysgu o bell, opsiynau ar gyfer dysgu cyfunol pan fydd hynny’n ddiogel, yn ogystal â chynllun cynhwysol ar gyfer adferiad i’w gyflwyno yn y blynyddoedd nesaf.

“Dylai gynnwys Ymgyrch Recriwtio anferth er mwyn enlistio mwy o staff, oherwydd mai cynnal mwy o gysylltiad rhwng addysgwyr a disgyblion yw’r allwedd i’r adferiad.

“Mae’n rhaid adnabod y rheiny sydd wedi cael eu gadael ar ôl fwyaf drwy gynlluniau addysg unigol, gyda’r cymorth wedyn yn targedu’r rheiny sydd ei angen fwyaf.

“Cafodd cynllun adfer gwreiddiol y Gweinidog Addysg – cynllun gwerth £29m – ei groesawu, ond nawr bod wythnosau, os nad misoedd, o darfu ar addysg o’n blaenau, mae’n rhaid i ddisgyblion a rheini fod yn hyderus y bydd buddsoddiad sylweddol mewn addysg, a bod Swyddfa Addysg Llywodraeth Cymru yn arwain Cynllun Adfer.”

Teimladau pobol ifanc am ddychwelyd i’r ysgol

72% o’r bobol ifanc yn teimlo fod Covid-19 wedi cael rhywfaint o effaith ar eu haddysg

Rhaid i ysgolion Cymru aros ar gau tan fis Chwefror, meddai undeb Unsain

Undeb UNSAIN yn dweud bod cyhoeddiad Kirsty Williams yn cau ysgolion wedi dod yn rhy hwyr