Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn dweud bod 1.3m o bobol yng ngwledydd Prydain wedi derbyn brechlyn coronafeirws erbyn hyn, gan gynnwys 1.1m yn Lloegr.
Mae’r ffigwr hefyd yn cynnwys 650,000 o bobol dros 80 oed – 23% o’r holl bobol dros 80 oed yn Lloegr.
“Mae hynny’n golygu y bydd gan un o bob pedwar o’r grwpiau mwyaf bregus, ymhen dwy neu dair wythnos, lefel sylweddol o imiwnedd,” meddai Boris Johnson mewn cynhadledd i’r wasg yn Downing Street.
“Dyna pam dw i’n credu bod y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwnedd yn iawn i lunio rhaglen i achub y nifer fwyaf o fywydau gyflymaf.”
Pryder am gyfraddau uchel
Ond daw’r newyddion am y brechlyn yng nghanol pryderon yr Athro Chris Whitty, prif swyddog meddygol Lloegr am gyfraddau heintio’r coronafeirws yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae un o bob 50 o bobol yng ngwledydd Prydain wedi cael eu heintio erbyn hyn.
Mae hynny, meddai, “yn ffigwr eithaf mawr dros ben” wrth ddweud bod nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i ysbytai Lloegr hefyd ar gynnydd, yn enwedig yn Llundain a’r de-ddwyrain.
Ond mae’n dweud bod yr ail gyfnod clo wedi arwain at ostyngiad yn y niferoedd cyn i’r amrywiolyn ddod i’r amlwg.
Mae’n debygol erbyn hyn y bydd cyfnod clo Lloegr mewn grym tan ddiwedd mis Mawrth.
“Fe gawson ni broblemau o ran yr amrywiolyn newydd a’r cyfnod gwaethaf o aeaf yn cyfuno i arwain at gynnydd sylweddol ers y cyfnod hwnnw,” meddai.
“A nawr rydyn ni mewn sefyllfa lle, ledled y wlad gyfan, mae gan oddeutu un o bob 50 o bobol y feirws.
“Mae un o bob 50 wir yn nifer eithaf mawr dros ben.”
Mae e hefyd wedi amddiffyn yr amserlen ar gyfer brechu pobol fel un “realistig”, ond mae’n dweud na fydd yn “hawdd”.
Ysgolion a phrifysgolion
Yn ôl Boris Johnson, roedd Llywodraeth Prydain yn ymwybodol o’r amrywiolyn newydd o Ragfyr 18 ac wedi bod yn monitro’r sefyllfa.
Dywedodd mai’r gobaith oedd y byddai cyfyngiadau Haen 4 yn galluogi ysgolion Lloegr i aros ar agor ond ei bod wedi dod yn amlwg mai cau ysgolion oedd yr unig opsiwn yn y pen draw.
Wrth drafod sefyllfa’r prifysgolion, mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain yn edrych ar y trefniadau mae prifysgolion yn eu rhoi ar waith i fyfyrwyr sy’n cael eu hannog i beidio â dychwelyd i’w llety.
Iechyd meddwl
Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi ymddiheuro am y “pryder ychwanegol” mae’r pandemig yn ei achosi i bobol â salwch iechyd meddwl.
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r cyhoedd am y cymorth sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl pobol.
“Rydym wedi rhoi cryn dipyn i mewn i ofal iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd yn amlwg, dw i’n credu oddeutu rhyw £12bn arall,” meddai.
Dywedodd fod £20m wedi mynd i elusennau iechyd meddwl hefyd.