Mae arweinwyr Democratiaid Rhyddfrydol a Cheidwadwyr yr Alban yn galw ar Nicola Sturgeon i roi’r gorau i gynllunio ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yn sgil y coronafeirws.
Roedd Llywodraeth yr Alban eisiau cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth cyn etholiadau Holyrood fis Mai, ond mae’r prif weinidog wedi dweud bod yr ymgyrch annibyniaeth “ar stop” ar hyn o bryd.
Ym mis Medi, cyhoeddodd Nicola Sturgeon ei chynlluniau i ddrafftio Bil i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, gan ddadlau “nad oes cyfiawnhad democrataidd na moesol” y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ddefnyddio i wrthod cynnal refferendwm arall petai Senedd yr Alban yn cefnogi’r cynllun.
‘Rhaid i ni flaenoriaethu’r adferiad’
Mae Willie Rennie, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, yn galw ar Nicola Sturgeon i adlewyrchu ar y “sefyllfa enbydus” sy’n wynebu’r wlad yn sgil lledaeniad sydyn Covid-19.
“Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu’r adferiad wrth i ni wynebu ton newydd anferth o’r feirws. Os yw’r wlad yn cael ei rhoi dan glo, yna dylai’r un peth fod yn wir am yr ymgyrch dros annibyniaeth,” meddai.
“Y tro diwethaf i bobol orfod aros adre, rhoddodd y prif weinidog stop ar ymgyrchu cyfansoddiadol a’r holl waith roedd y llywodraeth yn ei wneud ar y mater.
“Mae’r wlad, a’r Gwasanaeth Iechyd, mewn sefyllfa hyd yn oed yn fwy enbydus nawr, felly mae angen iddi wneud hynny eto.
“Mae gweision sifil yn gweithio ar Fil annibyniaeth nesaf yr SNP ar hyn o bryd. Nid dyma’r flaenoriaeth gywir i’r llywodraeth. Dylai’r gwaith, ac unrhyw waith ar annibyniaeth, stopio nawr.”
Ychwanegodd fod y wlad yn “wynebu argyfyngau ym mhob maes – addysg, iechyd meddwl, a’r economi”.
“Mae’n rhaid i bawb helpu,” meddai.
“Mae angen i’r prif weinidog roi annibyniaeth ar un ochr, a chanolbwyntio ar y drydedd don farwol yma o’r feirws.
“Mae’n rhaid i adferiad ddod gyntaf.”
“Afresymol” blaenoriaethu’r bil annibyniaeth
Dywed Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, fod dewis yr SNP i “flaenoriaethu’r bil annibyniaeth yn fwy afresymol nag erioed gan fod y wlad dan glo, a phobol yr Alban yn poeni am frwydro’r pandemig yn unig”.
“Nid oes llawer o’r tymor yn weddill a bydd gwaith hanfodol y senedd yn cael ei gyfyngu yn sgil rheolau Covid-19,” meddai.
“Byddai’n anghyfrifol iawn dargyfeirio amser a sylw gweision sifil oddi wrth y materion pwysicaf – fel brechu pobol, addysg, a gwarchod swyddi – a rhoi sylw i refferendwm rhwygol arall yn lle.
“Ni allwn wastraffu amser yn mynd dros yr un dadleuon cyfansoddiadol â’r 13 mlynedd diwethaf, pan ddylai ein holl sylw fod ar symud ymlaen oddi wrth y pandemig.”
Canolbwyntio ar ymdopi â’r pandemig “bob awr o bob dydd”
“Fis Chwefror, Mawrth, diwethaf pan ddaeth Covid-19 i’n bywydau, gohiriais yr holl ymgyrchu a’r cynllunio ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth,” meddai Nicola Sturgeon wrth raglen newyddion Channel 4 ddoe (dydd Llun, Ionawr 4).
“Bob diwrnod, yn llythrennol, ers hynny rwyf wedi canolbwyntio ar ymdopi a brwydro’r pandemig – fel yw fy nyletswydd i bobol yr Alban.
“Bydd hynny’n parhau yn wir tra ein bod ni yng nghanol y pandemig.”
Ychwanegodd fod adferiad yr argyfwng economaidd a’r argyfwng iechyd yn “gyfle i fynd i’r afael â rhai materion dyfnach a phroblemau gydag anghydraddoldeb a thlodi”, ac felly mae’n rhaid codi cwestiynau ynghylch annibyniaeth i’r Alban.
“Nid yw hynny er mwyn tynnu’r sylw oddi ar yr adferiad,” meddai wedyn.
“Mae hynny’n rhan o wneud yn siŵr ein bod ni fel gwlad yn yr Alban yn pernderynu sut lle fyddwn i wedi’r adferiad – a lle sydd ddim yn cael ei reoli gan werthoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd yn wahanol iawn i werthoedd mwyafrif yr Alban.
“Ond ar hyn o bryd, fel prif weinidog, rwy’n canolbwyntio bob diwrnod, bob awr o bob dydd yn llythrennol, ar wneud yn siŵr fy mod yn dod â’r wlad hon drwy’r pandemig mor ddiogel ag sy’n bosib.”