Mae achosion o’r coronafeirws yn effeithio ar 34 o gartrefi gofal yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl y Cyngor Sir.

Maen nhw’n dweud mewn datganiad bod “pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol… yn sgil Covid-19” yn sgil achosion cyfredol neu wrth i gartrefi fethu â derbyn rhagor o bobol wrth iddyn nhw adfer ar ôl achosion diweddar.

Dywed y Cyngor bod hyn o ganlyniad i gynnydd mewn achosion ymhlith pobol sydd angen gofal, a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw’n gorfod hunanynysu.

Maen nhw’n annog pobol i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i aros gartref a helpu i arafu ymlediad y feirws.

Bu’n rhaid i’r Cyngor Sir gymryd camu i ddarparu cymorth a staffio ychwanegol i ddeg o gartrefi’r sir, a bu’n rhaid cymryd rheolaeth o un cartref dros dro oherwydd prinder staff.

Ymateb y Cyngor Sir

Dim ond gofal hanfodol sy’n gallu cael ei roi ar hyn o bryd, a hynny oherwydd “heriau sylweddol”, yn ôl Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau’r Cyngor Sir.

“Dros yr wythnosau diwethaf, mae gofal cymdeithasol wedi bod o dan bwysau sylweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol,” meddai.

“Yr her sylweddol i lawer o gartrefi yw cynnal lefelau staffio diogel ac rydym yn darparu gwasanaethau a staff yn uniongyrchol i gefnogi nifer o gartrefi yn y sir.

“Mae amrywiaeth o gynlluniau wrth gefn yr ydym wedi’u rhoi ar waith i leihau’r risg dros yr wythnosau nesaf ac rwy’n falch bod y mwyafrif o gleientiaid sy’n dal Covid-19 yn gallu gwella’n llwyr drwy ymdrechion ein staff gofal ac iechyd ymroddedig.

“Mae staff ar draws gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl ganddynt i gefnogi a diogelu pobol sy’n agored i niwed, ac rwyf am ddiolch iddynt yn bersonol am eu hymrwymiad parhaus.”

Yn ôl y Cynghorydd Jane Tremlett, sy’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol tros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, na fydd y sefyllfa’n newid tan bod brechlyn ar gael i bobol fregus a staff gofal.

“Mae’r risgiau wedi bod yn uchel ar draws y sector dros y Nadolig a byddant yn parhau felly hyd nes y bydd y brechlyn wedi’i gyflwyno,” meddai.

“Diolch byth, rydym eisoes yn gweld y budd i’r cartrefi gofal hynny a gafodd y brechlyn cyn y Nadolig.

“Rydym yn agos at weld y brechlyn yn cael effaith amddiffynnol wirioneddol yn ein cymunedau a byddwn yn gofyn i bawb yn y sir chwarae eu rhan i atal lledaeniad y feirws a rhoi’r cyfle gorau i ni amddiffyn ein pobol fwyaf agored i niwed.”