Does dim gobaith o ddod o hyd i unrhyw un yn fyw yn dilyn tirlithriad, yn ôl awdurdodau Norwy.
Cafodd saith o bobol eu lladd yn y digwyddiad ym mhentref Ask ger y brifddinas Oslo yr wythnos ddiwethaf.
Mae tri o bobol yn dal ar goll, a chafodd o leiaf naw o adeiladau eu dinistrio yn un o’r tirlithriadau gwaethaf erioed yn y wlad.
Bydd yr awdurdodau’n parhau i chwilio amdanyn nhw er gwaethaf tirlithriad bach arall.
Mae’r prif weinidog Erna Solberg wedi cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau’r rhai fu farw.