Mae deiseb i sefydlu rhaglen Erasmus rhwng Cymru a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi denu dros 50 o lofnodion, sy’n golygu y bydd yn mynd gerbron pwyllgor deisebau Senedd Cymru.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen Erasmus ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n golygu na all myfyrwyr Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon barhau i elwa o’r cynllun.

Roedd y Deyrnas Unedig yn rhan o gynllun Erasmus ers 1987, ac roedd yn rhoi’r hawl i fyfyrwyr astudio a gweithio ledled Ewrop, gyda miloedd yn manteisio ar y cynllun bob blwyddyn.

Yn ei le, bydd cynllun newydd ar raddfa fyd-eang yn dwyn enw Alan Turing yn cael ei gyflwyno.

‘Fandaliaeth ddiwylliannol’

“I’n pobol ifanc, mae’n golygu fandaliaeth ddiwylliannol drwy eu torri o raglen Erasmus+, y mae pobol o Gymry wedi gwneud cymaint i ddylanwadu arni a’i meithrin,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru yr wythnos ddiwethaf.

“Mae hefyd yn gwadu dyfodol iddynt lle gallant fyw a gweithio’n rhydd ar draws cyfandir Ewrop gyfan,” ychwanegodd y Prif Weinidog.

“Ergyd fawr”

Mae’r penderfyniad i ddileu’r cynllun wedi cael ei ddisgrifio fel “ergyd fawr” gan Weinidog Prifysgolion Llywodraeth yr Alban.

Mae Richard Lochhead wedi beirniadu cynllun Turing, gan ddweud ei fod yn “wannach” ac nad yw’n derbyn cymaint o arian ag yr oedd cynllun Erasmus.

Wrth drafod rhaglen Erasmus, dywed fod y cynllun “yn gwbl hanfodol”, ac yn un “sy’n dod â gwahanol wledydd a chenhedloedd ynghyd, gyda buddiannau diwylliannol ac addysgiadol enfawr”.