Mae mudiad CAMRA, sy’n hyrwyddo cwrw casgen, yn rhybuddio y gallai gwaharddiad ar beintiau tecawê yn ystod y cyfyngiadau symud arwain at “farwolaeth llawer o dafarndai”.
Daw rhybudd y cadeirydd Nik Antona ar ôl i’r cyfyngiadau coronafeirws olygu gwaharddiad ar werthu alcohol gydag unrhyw wasanaethau tecawê eraill mewn tafarndai a bwytai.
Dywed Nik Antona fod cefnogaeth grant untro’r Canghellor o hyd at £9,000 i fusnesau lletygarwch “i’w groesawu” ond mae’n dweud nad yw’n “ddigon agos i dalu’r costau ar gyfer tafarndai a bragdai.”
Wrth ymateb i’r cyfyngiadau diweddaraf, dywed fod y “cyfyngiadau symud cenedlaethol yn ergyd ddinistriol arall i ddiwydiant sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, sy’n delio â bron i flwyddyn o gyfyngiadau, cyrffyw a chau gorfodol”.
“Mae’n amlwg nawr yn fwy nag erioed bod yn rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno pecyn cymorth ariannol newydd, hirdymor a sector-benodol i helpu’r busnesau hyn i oroesi’r misoedd nesaf,” meddai.
“Er bod cymorth grant untro i’w groesawu, nid yw’n ddigon agos at dalu’r costau ar gyfer tafarndai a bragdai nad ydynt yn gweld unrhyw ddiwedd ar eu golwg.”
A bore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 5), daeth i’r amlwg bod dyfodol bragdy Brains yn y fantol, mewn enghraifft arall o’r caledi mae’r diwydiant yn ei wynebu.
‘Mantais annheg’
Bydd pecyn cymorth diweddaraf Rishi Sunak yn costio £4.6 biliwn i’r trysorlys, ond dywed cadeirydd CAMRA fod gan archfarchnadoedd “fantais annheg” yn dilyn dryswch ynghylch a fyddai tafarndai’n gallu gweithredu ar “faes chwarae gwastad”.
“Yr hyn sy’n peri pryder arbennig yn y cyhoeddiad diweddaraf fu’r dryswch ynghylch a fydd tafarndai’n gallu gweithredu’n chwarae teg gydag archfarchnadoedd ac oddi ar drwyddedau yn ystod y cyfyngiadau symud hyn – fel y maent wedi gallu gwneud o’r blaen,” meddai Nik Antona wedyn.
“Roedd gallu gwerthu cwrw tecawê yn ystod y cyfyngiadau symud diwethaf yn achubiaeth i’r diwydiant, ond gallai cael gwared ar hynny arwain at farwolaeth llawer o dafarndai.
“Bydd hyn unwaith eto’n rhoi mantais annheg i archfarchnadoedd nad ydynt yn wynebu cyfyngiadau tebyg.”