Mae Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi dweud wrth golwg360 “nad oes esgus” gan ddarlledwyr tros ddefnyddio’r term ‘cenedlaethol’ wrth drafod materion sy’n cyfeirio at Loegr yn unig.

Dro ar ôl tro yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi trydar i atgoffa pobol fod ‘cenedlaethol’ yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at Loegr yn unig.

Pan gyhoeddodd Boris Johnson y rheolau newydd ar gyfer Lloegr ddoe (dydd Llun, Ionawr 4), cyfeiriodd sawl newyddiadurwr atyn nhw fel cyfyngiadau ‘cenedlaethol’ – ar Twitter yn enwedig.

Neithiwr (nos Lun, Ionawr 4), fe wnaeth cyfrif Twitter Llywodraeth Cymru ateb trydariad gan olygydd gwleidyddol ITV, Robert Peston, wedi iddo gyfeirio at gyfnod clo ‘cenedlaethol’ yn hytrach na chyfnod clo yn Lloegr.

“Esgeulustod cenedlaethol”

Mae gweld newyddiadurwyr yn defnyddio’r term ‘cenedlaethol’ yn hytrach na chyfeirio at Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar wahân yn “ffenomenon rydw i wedi arfer gydag e ers blynyddoedd”, meddai Delyth Jewell wrth siarad â golwg360.

“Fel arfer, roedd e’n gwneud fi ychydig bach yn flin. Ond nawr, does dim esgus.

“Ers deg mis nawr, rydym ni wedi clywed cyhoeddiadau sy’n wahanol ar gyfer pob un o’r pedair cenedl.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi pwyntio hyn ma’s i newyddiadurwyr dro ar ôl tro, maen nhw’n gwybod yn iawn eu bod nhw’n anghywir ac mae ganddyn nhw ddyletswydd i egluro.”

Dywed Delyth Jewell fod gweld newyddiadurwyr yn defnyddio’r term ‘cenedlaethol’ fel arfer yn “annoying”, ond ei fod bellach yn “fater o iechyd cyhoeddus a’r gyfraith, ble mae disgwyl i bobol ddiogelu pobol eraill”.

“Mae’n beryglus, nid just yn dangos diffyg parch,” meddai.

“Mae angen i newyddiadurwyr ddweud yn glir pwy maen nhw’n cyfeirio atyn nhw er mwyn diogelwch cyhoeddus.

“Mae’n rhywbeth allweddol, ac mae’n rhaid ei gael yn gywir.”

Mewn trydariad fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 5), dywedodd nad “diogi yw hyn yn unig – mae’n esgeulustod cenedlaethol.”

Dywedodd nad yw’r ffaith fod gan Twitter uchafswm geiriau yn esgus dros ddefnyddio’r term, a pheidio â defnyddio’r ddau air ‘yn Lloegr’ yn lle.